Archwilio gweledigaeth ar gyfer ein tir a môr gyda Menter Mynyddoedd Cambria

Ynystod 2021 wnaeth Fenter Mynyddoedd Cambria a phrosiect O’r Mynydd i’r Môr cydweithio ar ymchwil gyda ffermwyr a rheolwyr adnoddau naturiol.

Mae’r ymchwil hwn yn archwilio:

  • Beth yw’r perthynas rhwng busnes a natur ar hyn o bryd?
  • Beth yw dyheadau busnesau ar gyfer y dyfodol?
  • A fyddant o fudd i natur yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol os cânt eu gweithredu?
  • Sut y gall y mentrau gefnogi datblygiad busnes a fydd â manteision cadarnhaol i natur, cymuned a’r economi?

Cynhaliwyd cyfweliadau a gweithdai fel rhan o’r gwaith yma rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd 2021.  Roedd y tîm apwyntiwyd yn cynnwys nifer o gyfwelwyr lleol, gyda’r ymchwil yn cynnwys:

  • Adeiladu rhestr o dros 100 o fusnesau sy’n gweithio gyda’r adnoddau naturiol.
  • Trafodaeth unigol un i un gyda 50 o’r busnesau hyn (gan anelu at ledaeniad ar draws yr ardal, math a maint busnes).
  • Cyfarfod wyneb yn wyneb gyda 25 o ffermwyr a chyfarfod ar-lein gyda phedwar busnes twristiaeth.

Roedd yr ymchwil yn canolbwyntio ar fusnesau sydd â pherthynas ag adnoddau naturiol lle mae’r berthynas yn sylfaenol i’w gweithgaredd masnachol.  Busnesau sydd â pherthynas uniongyrchol gydag adnoddau naturiol trwy eu defnyddio neu eu cynaeafu, er enghraifft ffermio, a busnesau sydd â pherthynas anuniongyrchol ond lle mae’r adnoddau naturiol dal yn graidd i’r model busnes, er enghraifft beicio mynydd.

Roedd yr ymchwil yn archwilio sut mae pobl sy’n rheoli’r busnesau hyn yn gweld ac yn deall y berthynas rhwng eu busnes a natur; sut mae’n rhyngweithio gyda’r gymuned a’r dirwedd mae’r busnes yn gweithredu ynddo, a’r cyfleoedd a’r heriau maent yn gweld ar gyfer dyfodol eu busnes a’u perthynas â natur.

“Mae ffermio yn elfen hanfodol o economi Mynyddoedd Cambria a’n cymunedau.

Mae’n ysbrydoledig gweld yr amrywiaeth o ffyrdd y mae ffermwyr Mynyddoedd Cambria am fwrw ymlaen â’u busnesau – er enghraifft, amaethyddiaeth adfywiol, ffermio carbon, mwy o wartheg yn pori ar y bryn i agor molinia trwchus, rheoli ffiniau a choed yn well. Mae gan y pethau hyn i gyd y potensial i wella busnes y fferm.

Gan fod y pethau hyn hefyd yn helpu’r hinsawdd ac adfer natur, bydd pob un ohonom yn elwa yn y pen draw os gall ffermwyr gyflawni’r uchelgeisiau hyn.”

Ieuan Joyce, Cadeirydd Menter Mynyddoedd Cambria

Darganfu’r ymchwil bod pob busnes yn gallu rhoi nifer o esiamplau o’r ffyrdd maent yn cyfoethogi natur a bod awydd i wneud mwy.  Mae nifer o’r busnesau hyn yn cynllunio ar gyfer y dyfodol hir dymor oherwydd eu bod yn cynrychioli bywoliaethau pobl (yn aml ar draws genedlaethau’r gorffennol a’r dyfodol), felly maent yn cynnig cyfrwng hir dymor er mwyn darparu buddion i’r gymuned, yr economi lleol, natur a’r hinsawdd.

O beth mae’r ymchwil yma wedi dangos mae yna awydd ymhlith y busnesau i gydweithio, gyda’i gilydd, a gyda Menter Mynyddoedd Cambria ac O’r Mynydd i’r Môr, er mwyn datblygu’r syniadau ymhellach a godwyd yn ystod y gwaith hwn.  Fe fydd hwn yn cefnogi’r tir cyffredin sy’n bodoli; i feithrin cymunedau lleol, i gael tirwedd gynhyrchiol, i alluogi natur i wella ac i chwarae rhan gadarnhaol wrth ymgodymu â newid hinsawdd.

Mae darganfyddiadau’r ymchwil wedi’u datblygu i gyfres o gysyniadau prosiect sy’n adlewyrchu’r adborth o’r cyfweliadau a gweithdai. Gallwch ddarllen mwy am y cysyniadau yma yn y crynodeb, ac yn yr adroddiad llawn sydd wedi ei rhannu isod.

Beth Nesaf

Mae’r ymchwil hwn wedi bod yn annatod wrth hysbysu’r broses gyd-gynllunio O’r Mynydd i’r Môr, a gallwch ddarllen mwy am hyn yn Glasbrint y Prosiect, a blaengynllunio Menter Mynyddoedd Cambria.

Diolch i bawb a rhoddodd eu hamser i’r ymchwil hwn.

Galwad Agored i Artistiaid

Mae Tir Canol yn cynnig cyfle i artistiaid ddatblygu a/neu gyflawni gwaith sy’n ceisio (ail)gysylltu cymunedau â’r tirweddau yn ein hardal ni o Ganolbarth Cymru. Rydym yn chwilio am artistiaid newydd a sefydledig o unrhyw ddisgyblaeth sydd â chysylltiad â’r dirwedd...

Atal tanau gwyllt Cwm Rheidol

Mae Tir Canol yn gweithio mewn partneriaeth â Choed Cadw, sy’n rheoli coetir Allt Boeth ym mhen uchaf Cwm Rheidol, er mwyn cefnogi’r camau cyntaf wrth ddatblygu cynllun argyfwng Cymuned Cwm Rheidol. Mae’r syniad o gael cynllun wedi dod gan y gymuned, sydd wedi gweld...

Beth mae ein Swyddog Natur yn ei wneud?

Mae Ben Porter, Swyddog Natur Tir Canol, yn gweithio gyda pherchnogion tir a ffermwyr, gan gynnig arolygon bioamrywiaeth o’u tir, ac unrhyw goetir arno, i sefydlu eu gwerth a’u cyflwr ecolegol. Wedi hynny, byddwn yn cynnig cyllid ymyrraeth i’r safleoedd hynny lle mae...

Lansio Llawlyfr Newid Llanw

Lansio Newid Llanw - Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth. Credyd llun: Dan Jones Ddydd Gwener 27 Chwefror, fe wnaethom lansio Newid Llanw, llawlyfr ar addasiadau arfordirol sydd wedi cael ei lunio ar y cyd â chymunedau Dyfi. Nod y llawlyfr yw darparu’r adnoddau a’r...

Cyfle – Artist

Contract – Artist Ymgysylltu â’r Gymuned Artist Ymarfer sy'n Ymgysylltu'n Gymdeithasol ar gyfer prosiect cyd-ddylunio cymunedol Dyfi ynghylch addasu arfordirol "Mae celf yn adrodd straeon pwerus. Gall artistiaid adrodd straeon cymunedau y mae newid yn yr hinsawdd yn...

Cyfle

Rydym yn chwilio am ddylunydd… BRIFF DYLUNIO: Dogfen Cerrig Camu - Cynllun Gweithredu ar Reoli Llifogydd Cefndir: “Mae Grŵp Llifogydd Cymunedol Talybont (TCFG) wedi bod yn gweithio am y dri flynedd ddiwethaf ar brosiect i gasglu tystiolaeth o sut mae dŵr yn ymddwyn yn...

Celf , Sgyrsiau a Gweithdai

27.04.25 - Dydd Sul10:00 – 17:00Star of the Sea – Borth SY24 5HFDewch yn llu. Diwrnod o greadigrwydd ac rhannu gydag Artistiaid Preswyl Tir Canol: Veronica Calarco, Ailsa Mair, a Hannah Doyle! Dewch i archwilio'r cysylltiad rhwng celf, straeon, cymuned a'r byd...

Datganiadau o ddiddordeb ar gyfer Treialon Cnydau Dyfi a Rheidol

Treialon Cnydau Dyfi a Rheidol yn chwilio am ffermwyr a thyfwyr! Ydych chi’n ffermwr neu dyfwr sy’n byw yn nyffryn Dyfi neu Rheidol? Oes gennych chi ddiddordeb dargyfeirio eich fferm i gynnwys cynhyrchu llysiau, neu ehangu ar y cnydau bwytadwy a gynhyrchir ar eich...

Cyfle Artist Preswyl

Mae Tir Canol yn gymuned sy'n dylunio ac yn darparu canlyniadau cadarnhaol i natur a phobl trwy ein defnydd o'r tir a'r môr.Pobl Cymuned yn ymwneud â rheoli tir a môr ar gyfer natur a ni, sydd yn dathlu ein treftadaeth gyfoethog ac sy’n gynaliadwy Tir Cymuned sy'n...

Swydd Newydd – swyddog arfordir

Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â thîm gwych sy'n achub natur ac ysbrydoli pobl yn rhai o ardaloedd mwyaf cyfoethog bywyd gwyllt Cymru.     Rydym yn chwilio am rywun sy'n angerddol am ardal Dyfi, sy'n gweld y darlun mawr ac sydd â llygad am fanylion. Rhywun...