Astudiaeth achos: Tyfu cnydau bresych y gaeaf ar fferm laeth

Fel rhan o’n prosiect treialon cnydau, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr lleol, gan gynnig cyngor, cyllid sbarduno, cysylltiadau â marchnadoedd lleol, ac offer i gefnogi cynhyrchu garddwriaeth yn lleol.

Un ffermwr sy’n ymwneud â’r prosiect yw Menna Williams o Dal y Wern sydd wedi bod yn treialu cnydau bresych y gaeaf ar ei fferm laeth. Dewisodd fresych y gaeaf i gyd-fynd â’r tymor tyfu o amgylch y cyfnodau prysurach ar y fferm laeth ac i lenwi bwlch mewn cynhyrchiant gan dyfwyr lleol eraill. Mae hi wedi cael llwyddiant mawr yn tyfu blodfresych, bresych, ysgallddail, cêl a brocoli porffor, gan eu gwerthu drwy Focs Llysiau Mach a’r stondin Ffres a Lleol yn y farchnad dydd Mercher ym Machynlleth.

Fe wnaethon ni gynorthwyo Menna gyda chostau prynu planhigion plwg organig o Delflands, gan ddewis amrywiaeth o fathau i fod ar gael dros y gaeaf. Fe wnaethon ni hefyd gynorthwyo Menna gyda chynllun cnydau, ac ymweliadau safle i’w chefnogi gyda chyngor ar blâu a chlefydau a thechnegau cynaeafu. Mae Menna yn gobeithio cynyddu ei hymdrechion eleni ac mae wedi buddsoddi mewn peiriannau i helpu’r uwchraddio.

Mae’r prosiect hefyd wedi bod yn gweithio gyda marchnadoedd lleol fel Bocs Llysiau Mach, Ffres a Lleol a mwy i gynyddu’r farchnad ar gyfer ffrwythau a llysiau a dyfir yn lleol. Mae gennym ddiddordeb mewn datblygu canolbwynt ar gyfer cynnyrch bwyd i gynorthwyo ffermwyr i gyflenwi’r farchnad leol, a marchnata i wahanol gymunedau yn yr ardal i gynyddu’r nifer sy’n prynu ffrwythau a llysiau ffres sy’n cael eu tyfu’n lleol.

Mae’r prosiect hefyd wedi bod yn gweithio gyda marchnadoedd lleol fel Bocs Llysiau Mach, Ffres a Lleol a mwy i gynyddu’r farchnad ar gyfer ffrwythau a llysiau a dyfir yn lleol. Mae gennym ddiddordeb mewn datblygu canolbwynt ar gyfer cynnyrch bwyd i gynorthwyo ffermwyr i gyflenwi’r farchnad leol, a marchnata i wahanol gymunedau yn yr ardal i gynyddu’r nifer sy’n prynu ffrwythau a llysiau ffres sy’n cael eu tyfu’n lleol.

Gyda llywodraeth newydd yn y Senedd, rydyn ni hefyd yn gweithio i eiriol dros fecanweithiau polisi a fydd yn cynorthwyo mwy o ffermwyr i fynd ati i dyfu ffrwythau a llysiau ar eu ffermydd drwy gyllid, systemau rhannu tir a mwy drwy bartneriaeth Cynghrair Polisi Bwyd Cymru.  Gallwch ddarllen eu gofynion polisi ar gyfer y llywodraeth newydd yma

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael gwybod mwy am y cymorth y gallwn ei gynnig i ffermwyr sydd eisiau arallgyfeirio i gynhyrchu cnydau neu fusnesau sydd eisiau prynu cynnyrch lleol, cysylltwch â roz.corbett@landworkersalliance.org.uk.

Dorry Spikes – Crwydryn

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi Dorry Spikes fel artist preswyl Tir Canol ar gyfer hydref/gaeaf 2026. Astudiodd Dory Ddarlunio ac Animeiddio ym Mhrifysgol Kingston ac aeth i’r ‘Flwyddyn Arlunio’ yn yr Ysgol Arlunio Frenhinol. Mae peintio a thynnu lluniau o brofiadau...

Sut gallwn ni leihau risg ac effaith llifogydd yn Nhal-y-bont? Adroddiad Llif

Sut daeth Llif i fodolaeth? Yn 2012, torrodd afonydd Ceulan a Leri eu glannau ym mhentref Tal-y-bont ger Aberystwyth yng Nghanolbarth Cymru. Cafodd hyn effaith drychinebus. Effeithiodd y llifogydd ar 27 o gartrefi a busnesau. Datblygwyd prosiect Llif mewn partneriaeth...

Tendr ar gyfer Gwerthuswr rhaglen Cynnal

Mae Tir Canol yn chwilio am ymgynghorydd i werthuso prosiect (Cynnal) sy'n rhan o raglen ehangach o waith. Gallwch ddarllen mwy am gefndir Tir Canol yma. Bydd y gwerthusiad yn cyfrannu at ein myfyrio ar ddatblygiad parhaus rhaglen Tir Canol, gan ein galluogi i...

Galwad Agored i Artistiaid

Mae Tir Canol yn cynnig cyfle i artistiaid ddatblygu a/neu gyflawni gwaith sy’n ceisio (ail)gysylltu cymunedau â’r tirweddau yn ein hardal ni o Ganolbarth Cymru. Rydym yn chwilio am artistiaid newydd a sefydledig o unrhyw ddisgyblaeth sydd â chysylltiad â’r dirwedd...

Atal tanau gwyllt Cwm Rheidol

Mae Tir Canol yn gweithio mewn partneriaeth â Choed Cadw, sy’n rheoli coetir Allt Boeth ym mhen uchaf Cwm Rheidol, er mwyn cefnogi’r camau cyntaf wrth ddatblygu cynllun argyfwng Cymuned Cwm Rheidol. Mae’r syniad o gael cynllun wedi dod gan y gymuned, sydd wedi gweld...

Beth mae ein Swyddog Natur yn ei wneud?

Mae Ben Porter, Swyddog Natur Tir Canol, yn gweithio gyda pherchnogion tir a ffermwyr, gan gynnig arolygon bioamrywiaeth o’u tir, ac unrhyw goetir arno, i sefydlu eu gwerth a’u cyflwr ecolegol. Wedi hynny, byddwn yn cynnig cyllid ymyrraeth i’r safleoedd hynny lle mae...

Lansio Llawlyfr Newid Llanw

Lansio Newid Llanw - Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth. Credyd llun: Dan Jones Ddydd Gwener 27 Chwefror, fe wnaethom lansio Newid Llanw, llawlyfr ar addasiadau arfordirol sydd wedi cael ei lunio ar y cyd â chymunedau Dyfi. Nod y llawlyfr yw darparu’r adnoddau a’r...

Cyfle – Artist

Contract – Artist Ymgysylltu â’r Gymuned Artist Ymarfer sy'n Ymgysylltu'n Gymdeithasol ar gyfer prosiect cyd-ddylunio cymunedol Dyfi ynghylch addasu arfordirol "Mae celf yn adrodd straeon pwerus. Gall artistiaid adrodd straeon cymunedau y mae newid yn yr hinsawdd yn...

Cyfle

Rydym yn chwilio am ddylunydd… BRIFF DYLUNIO: Dogfen Cerrig Camu - Cynllun Gweithredu ar Reoli Llifogydd Cefndir: “Mae Grŵp Llifogydd Cymunedol Talybont (TCFG) wedi bod yn gweithio am y dri flynedd ddiwethaf ar brosiect i gasglu tystiolaeth o sut mae dŵr yn ymddwyn yn...

Celf , Sgyrsiau a Gweithdai

27.04.25 - Dydd Sul10:00 – 17:00Star of the Sea – Borth SY24 5HFDewch yn llu. Diwrnod o greadigrwydd ac rhannu gydag Artistiaid Preswyl Tir Canol: Veronica Calarco, Ailsa Mair, a Hannah Doyle! Dewch i archwilio'r cysylltiad rhwng celf, straeon, cymuned a'r byd...