Cyfle Artist Preswyl

Mae Tir Canol yn gymuned sy’n dylunio ac yn darparu canlyniadau cadarnhaol i natur a phobl trwy ein defnydd o’r tir a’r môr.

Pobl

Cymuned yn ymwneud â rheoli tir a môr ar gyfer natur a ni, sydd yn dathlu ein treftadaeth gyfoethog ac sy’n gynaliadwy 

Tir

Cymuned sy’n gweithio ar raddfa tirwedd er lles natur

Dŵr

Afonydd ac arfordiroedd glân ac yn iach

Natur

Mae natur yn ffynnu fel rhan o’n cymuned

Bydd Tir Canol yn cynnig cyfleoedd i Artistiaid Preswyl weithio yn Nyffryn Dyfi yn ystod 2024. Rydym yn chwilio am artistiaid profiadol a rhai sy’n datblygu o unrhyw ddisgyblaeth artstig sydd â chystylliad efo Dyffryn Dyfi. Rhaid i’r gwath ymateb i’n prosiect diweddar Cynnal sy’n annog iaith Gymraeg, diwylliant, ecoleg, amgylchedd a threftadaeth hanesyddol yn y cyffiniau.

Rhaid i’w gwaith ymateb i agwedd ar y Prosiect Cynnal syd newydd ei lansio sy’n cynnwys elfennau o iaith, diwylliant, ecoleg, yr amgylchedd neu dreftadaeth hanesyddol Gymraeg Dyffryn Dyfi rwy gyflawni sawl prosiect.  

LLIF: Cyd-ddylunio cynllun gweithredu rheoli llifogydd naturiol ar gyfer dalgylch Leri, mewn partneriaeth â Grŵp Llifogydd Cymunedol Talybont ac eraill. 

MAES: Cynyddu prosiect Treialon ar Raddfa Faes, i dreialu dulliau agroecolegol newydd mewn cydweithrediad â ffermwyr lleol. 

CYNEFIN: Darparu treialon adfer cynefinoedd gyda thirfeddianwyr a ffermwyr, i gefnogi rheoli tir sy’n gyfeillgar i natur.

Manylion y Preswyliad

Bydd yr artistiaid a ddewisir yn cael eu gwahodd i dreulio hyd at 4 wythnos yn yr ardal, gyda phosibilrwydd o lety hunanarlwyo a stiwdio, yn dibynnu ar leoliad a gofynion.

Artistiaid sy’n Dod i’r Amlwg – Rydym yn cynnig tri chyfle wedi’u hariannu’n llawn, gan gynnwys y posibilrwydd o lety hunanarlwyo, a stiwdio. Disgwylir i artistiaid ariannu eu cynhaliaeth eu hunain. 

Artistiaid Profiadol – O bosib, darperir llety a stiwdio.

Cyfnod – Gallwch wneud cais am gyfnodau preswyl 1 – 4 wythnos o hyd, rhwng Gorffennaf 2024 ac Ionawr 2025.

Llety – Mae posibilrwydd o drefnu llety ar gyfer yr Artist Preswyl oni bai bod yr Artist yn byw yn yr ardal 

Preswyliadau ar y Cyd – Rydym yn annog pobl i gydweithio ac anogir preswyliadau ar y cyd. Os ydych yn dymuno ymgeisio gydag artist arall, nodwch hyn yn eich cais. 

Tâl – £2,000 am hyd y cyfnod preswyl ynghyd â £400 ar gyfer deunyddiau a chostau cysylltiedig. 

Gofyniad Artistiaid

  • Bydd angen i’r Artistiaid fod â chysylltiad â Dyffryn Dyfi – yn byw, yn gweithio, wedi cael eich geni, yn meddu ar dreftadaeth deuluol neu’n gweithio ar brosiect yng Ngwynedd.
  • Bydd angen i’r Artistiaid drefnu yswiriant angenrheidiol ar gyfer y preswyliad.
  • Gweithdai – Bydd yn ofynnol i Artistiaid gynnal o leiaf un gweithdy yr wythnos yn ystod preswyliad; bydd cydlynydd y prosiect ar gael i fentora ar hyn. Fel arfer mae nifer dda yn mynychu gweithdai a gallwch godi tâl, gall hyn ddarparu cyllid i artistiaid tra ar breswyliad
  • Byddwn yn derbyn ceisiadau gan artistiaid sy’n gweithio mewn unrhyw gyfrwng. 
  • Bydd yn ofynnol i Artistiaid a pharchu bywyd gwyllt, ecoleg a threftadaeth yr ardal.

Arddangos Gwaith

Yr Artistiaid fydd yn berchen ar y gwaith, a bydd cyfle i arddangos eu gwaith mewn lleoliad yn yr ardal ac arddangos ar y wefan a chyfryngau cymdeithasol.

Bydd cyfle i arddangos neu berfformio eu gwaith mewn lleoliad yn yr ardal.

Y Cais

Os oes gennych gwestiynau cyn gwneud y cais, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda: heledd.wyn@tircanol.cymru

  • Dogfen gais wedi ei chwblhau. (Cais cyflawn)
  • CV diweddar – Gyda manylion perfformiadau, arddangosiadau, gweithdai neu breswyliadau. 
  • Dogfen efo hyd at 5 llun , linc fideo, recordiad neu ddogfen o’r gwaith.
  • Os dymunir, mae modd cyflwyno atebion ar ddull clywedol, recordiad neu fideo.

Dylid anfon ceisiadau at heledd.wyn@tircanol.cymru erbyn 12:00, dydd Gwener 26ain Gorffennaf. 

Cyfnod Preswyl Coetir

Mae Tir Canol a Coed Cadw yn cynnig cyfnod preswyl i artist, ar y thema coed a/neu goetiroedd. Dyma gyfle i artist ddatblygu a/neu gyflawni gwaith sy’n ceisio (ail)gysylltu cymunedau â’r tirweddau yn ein hardal ni o Ganolbarth Cymru. Rydym yn chwilio am artistiaid...

Dorry Spikes – Crwydryn

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi Dorry Spikes fel artist preswyl Tir Canol ar gyfer hydref/gaeaf 2026. Astudiodd Dory Ddarlunio ac Animeiddio ym Mhrifysgol Kingston ac aeth i’r ‘Flwyddyn Arlunio’ yn yr Ysgol Arlunio Frenhinol. Mae peintio a thynnu lluniau o brofiadau...

Sut gallwn ni leihau risg ac effaith llifogydd yn Nhal-y-bont? Adroddiad Llif

Sut daeth Llif i fodolaeth? Yn 2012, torrodd afonydd Ceulan a Leri eu glannau ym mhentref Tal-y-bont ger Aberystwyth yng Nghanolbarth Cymru. Cafodd hyn effaith drychinebus. Effeithiodd y llifogydd ar 27 o gartrefi a busnesau. Datblygwyd prosiect Llif mewn partneriaeth...

Tendr ar gyfer Gwerthuswr rhaglen Cynnal

Mae Tir Canol yn chwilio am ymgynghorydd i werthuso prosiect (Cynnal) sy'n rhan o raglen ehangach o waith. Gallwch ddarllen mwy am gefndir Tir Canol yma. Bydd y gwerthusiad yn cyfrannu at ein myfyrio ar ddatblygiad parhaus rhaglen Tir Canol, gan ein galluogi i...

Astudiaeth achos: Tyfu cnydau bresych y gaeaf ar fferm laeth

Fel rhan o’n prosiect treialon cnydau, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr lleol, gan gynnig cyngor, cyllid sbarduno, cysylltiadau â marchnadoedd lleol, ac offer i gefnogi cynhyrchu garddwriaeth yn lleol. Un ffermwr sy’n ymwneud â’r prosiect yw Menna Williams...

Galwad Agored i Artistiaid

Mae Tir Canol yn cynnig cyfle i artistiaid ddatblygu a/neu gyflawni gwaith sy’n ceisio (ail)gysylltu cymunedau â’r tirweddau yn ein hardal ni o Ganolbarth Cymru. Rydym yn chwilio am artistiaid newydd a sefydledig o unrhyw ddisgyblaeth sydd â chysylltiad â’r dirwedd...

Atal tanau gwyllt Cwm Rheidol

Mae Tir Canol yn gweithio mewn partneriaeth â Choed Cadw, sy’n rheoli coetir Allt Boeth ym mhen uchaf Cwm Rheidol, er mwyn cefnogi’r camau cyntaf wrth ddatblygu cynllun argyfwng Cymuned Cwm Rheidol. Mae’r syniad o gael cynllun wedi dod gan y gymuned, sydd wedi gweld...

Beth mae ein Swyddog Natur yn ei wneud?

Mae Ben Porter, Swyddog Natur Tir Canol, yn gweithio gyda pherchnogion tir a ffermwyr, gan gynnig arolygon bioamrywiaeth o’u tir, ac unrhyw goetir arno, i sefydlu eu gwerth a’u cyflwr ecolegol. Wedi hynny, byddwn yn cynnig cyllid ymyrraeth i’r safleoedd hynny lle mae...

Lansio Llawlyfr Newid Llanw

Lansio Newid Llanw - Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth. Credyd llun: Dan Jones Ddydd Gwener 27 Chwefror, fe wnaethom lansio Newid Llanw, llawlyfr ar addasiadau arfordirol sydd wedi cael ei lunio ar y cyd â chymunedau Dyfi. Nod y llawlyfr yw darparu’r adnoddau a’r...

Cyfle – Artist

Contract – Artist Ymgysylltu â’r Gymuned Artist Ymarfer sy'n Ymgysylltu'n Gymdeithasol ar gyfer prosiect cyd-ddylunio cymunedol Dyfi ynghylch addasu arfordirol "Mae celf yn adrodd straeon pwerus. Gall artistiaid adrodd straeon cymunedau y mae newid yn yr hinsawdd yn...