Datganiadau o ddiddordeb ar gyfer Treialon Cnydau Dyfi a Rheidol

Treialon Cnydau Dyfi a Rheidol yn chwilio am ffermwyr a thyfwyr!

Ydych chi’n ffermwr neu dyfwr sy’n byw yn nyffryn Dyfi neu Rheidol? Oes gennych chi ddiddordeb dargyfeirio eich fferm i gynnwys cynhyrchu llysiau, neu ehangu ar y cnydau bwytadwy a gynhyrchir ar eich fferm neu yn eich gardd farchnad, ond heb fod yn siŵr iawn sut i fynd o’i chwmpas hi? Bydd prosiect Treialon cnwd Dyfi a Rheidol yn cydweithio â ffermwyr a thyfwyr i gefnogi cynnydd yn y cnydau bwytadwy sy’n cael eu cynhyrchu a’u gwerthu i’r gadwyn gyflenwi leol.

Yma yng Nghymru, rydym yn ddibynnol iawn ar fewnforio llysiau a ffrwythau. Mae’n system fwyd lleol wedi’i erydu’n araf sy’n ei gwneud yn anodd tyfu a chyflenwi llysiau a ffrwythau ffres yn lleol. Bydd y prosiect hwn yn gweithio gyda ffermwyr a thyfwyr i oresgyn rhai o’r heriau hyn, gan roi lle i ffermwyr a thyfwyr arbrofi a datblygu technegau ac arfau newydd.

Bydd y prosiect yn weithredol am ddau dymor tyfu – 2025 a 2026 – a gall ffermwyr a thyfwyr ymuno am un neu ddau dymor yn ogystal â thyfu cnydau gaeaf yn 2025. Mae lle ar y prosiect i weithio gyda hyd at 10 o ffermwyr a thyfwyr yn flynyddol.

Os oes gennych ddiddordeb ymuno â’r prosiect, darllenwch fwy am yr hyn sydd gan y prosiect i’w gynnig a chwblhewch y ffurflen Datgan Diddordeb erbyn 24 Tachwedd.

Meini prawf ffermwyr a thyfwyr:

  • Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ffermwyr a thyfwyr sydd am roi cynnig ar dyfu cnwd bwytadwy y bydd pobl leol yn ei fwyta.
  • – Rhaid i’r ffermwyr a thyfwyr fod wedi’u lleoli o fewn ac o amgylch dyffrynnoedd Dyfi a Rheidol.
  • Nid oes graddfa benodol i’r prosiect (e.e. 1 erw). Gan mai cynyddu’r cyflenwad o fwyd yn lleol yw’r nod, byddai disgwyl i arddwyr masnachol sydd wrthi’n barod gynyddu eu cynhyrchiant, a byddai gofyn i ffermwyr ddargyfeirio eu systemau cyfredol i gynnwys cnydau bwytadwy.
  • Rhaid i ffermwyr a thyfwyr ddefnyddio dulliau natur-gyfeillgar / agro-ecolegol / organig neu fod yn fodlon newid i’r systemau hyn.

Pa gefnogaeth a gynigir?

Bydd modd i dyfwyr a ffermwyr gael cefnogaeth i gynllunio, tyfu, cynaeafu a gwerthu’u cnydau gan dyfwyr a ffermwyr profiadol. Caiff y gefnogaeth ei theilwra i bob tyfwr a ffermwr yn ddibynnol ar eu profiad a’r cnydau y maent yn eu tyfu. Mae oddeutu £500-£1000 ar gael bob blwyddyn i bob cyfranogwr tuag at gostau cynhyrchu’r cnwd. Yn ogystal â hyn, mae oddeutu pump i ddeg diwrnod o amser staff ar gael yn flynyddol i bob ffermwr neu dyfwr i helpu gyda’r cnwd.

Gallai’r amser hwnnw gynnwys:

  • Cynllunio cnydau, gan gynnwys profion pridd, cylchdroi cnydau ac integreiddio’r prosiect i system y fferm/ardd ar gyfer y tymor hirach
  • Cefnogaeth gydag ariannu i ddatblygu cynhyrchiant, gan gynnwys cefnogaeth i wneud ceisiadau grant garddwriaethol RPW
  • Cefnogaeth ymarferol gyda’r cnydau gan gynnwys plannu, rheoli’r cnwd a chynaeafu
  • Cefnogaeth i adnabod a datblygu llwybrau masnach yn y gadwyn gyflenwi leol. Gallai hyn gynnwys prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru, a ariannir i gefnogi ffermwyr a thyfwyr Cymru wrth iddynt gyflenwi ysgolion gyda chynnyrch lleol organig, gyda chyngor a phris gwarantedig am y cynnyrch.
  • Casglu data – monitro iechyd y pridd, mesur carbon y pridd, mesur cynnydd mewn bioamrywiaeth ac ati.
  • Hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i’ch treial ar y fferm, os yw hynny’n ddymunol.
  • Tynnu sylw at gyfleoedd hyfforddi eraill.

Cwestiynau Cyffredin

  • Oes rhaid imi dyfu llond cae o gnydau er mwyn gallu ymuno â’r prosiect?

Does dim graddfa benodol o ran yr hyn y dylai ffermwyr a thyfwyr fod yn ei gynhyrchu. Mae dod o hyd i’r raddfa gynhyrchu gywir yn ddibynnol ar nifer o ffactorau amrywiol, gan gynnwys addasrwydd y tir, yr offer sydd ar gael, ystyriaethau storio ac ati. Yr hyn yr hoffem ei weld yw cynnydd yng ngraddfa’r cynhyrchiant, ond gyda sicrwydd nad ydym yn cyfaddawdu ar gynaladwyedd wrth wneud hynny.

  • Oes rhaid i fy fferm fod wedi’i ardystio’n organig?

Nac oes. Os hoffech chi werthu cynnyrch i’r prosiect llysiau mewn ysgolion lleol, yna mae’n rhaid i chi fod yn fodlon trosglwyddo’r tir i fod yn organig. Os hoffech werthu’r cynnyrch mewn ffyrdd eraill yna does dim gofyniad i fod yn organic, ond mae’n rhaid i chi fod yn fodlon dilyn egwyddorion ffermio agro-ecolegol.

  • Beth yw agro-ecoleg?

Dull o gynhyrchu bwyd sy’n cyfuno rheolaeth tir amgylcheddol a chynhyrchiant bwyd, yn ogystal â rhoi sylw i nodau cymdeithasol megis gwaith gydag urddas i ffermwyr, a chreu cysylltiadau rhwng cymunedau a ffermwyr.

  •  Beth sy’n cyfri fel cnydau bwyd bwytadwy?

Gall rhain fod yn unrhyw lysiau, ffrwythau neu berlysiau i’w bwyta gan bobl, a gallent hefyd gynnwys cnydau âr megis gwenith, barlys a cheirch lle bo’r rheiny am gael eu defnyddio ym mwyd pobl. Byddwn yn ystyried cnydau hadau a chnydau anfwytadwy eraill (megis blodau i’w torri) os nad yw’r prosiect wedi’i danysgrifio’n llawn a phan fydd y cnydau hynny yn cefnogi cadwyni cyflenwi lleol.

Os oes gennych ddiddordeb cymryd rhan yn y prosiect fel tyfwr neu ffermwr, llenwch y ffurflen hon i ddatgan diddordeb erbyn 24 Tachwedd:

Byddwn yn ystyried yr holl geisiadau ac yn dewis yr ymgeiswyr llwyddiannus erbyn 26 Tachwedd. Caiff yr ymgeiswyr eu gwahodd i ymuno â chyfarfod grŵp ddydd Llun 9 Rhagfyr o 9:30-1pm i ddod i nabod y rhai eraill sy’n rhan o’r prosiect, clywed mwy am yr hyn sydd gan bawb ar y gweill, a dysgu am y gefnogaeth sydd ar gael.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect neu os hoffech drafod eich syniad, cysylltwch â:

Roz Corbett, Cydlynydd Prosiect roz.corbett@landworkersalliance.org.uk  / 07912313357

Ariannir y prosiect hwn gan Sefydliad Esme Fairbairn. Mae’n cael ei weinyddu gan Gynghrair Gweithwyr y Tir. Mae’n rhan o brosiect Tir Canol.

Beth mae ein Swyddog Natur yn ei wneud?

Mae Ben Porter, Swyddog Natur Tir Canol, yn gweithio gyda pherchnogion tir a ffermwyr, gan gynnig arolygon bioamrywiaeth o’u tir, ac unrhyw goetir arno, i sefydlu eu gwerth a’u cyflwr ecolegol. Wedi hynny, byddwn yn cynnig cyllid ymyrraeth i’r safleoedd hynny lle mae...

Lansio Llawlyfr Newid Llanw

Lansio Newid Llanw - Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth. Credyd llun: Dan Jones Ddydd Gwener 27 Chwefror, fe wnaethom lansio Newid Llanw, llawlyfr ar addasiadau arfordirol sydd wedi cael ei lunio ar y cyd â chymunedau Dyfi. Nod y llawlyfr yw darparu’r adnoddau a’r...

Cyfle – Artist

Contract – Artist Ymgysylltu â’r Gymuned Artist Ymarfer sy'n Ymgysylltu'n Gymdeithasol ar gyfer prosiect cyd-ddylunio cymunedol Dyfi ynghylch addasu arfordirol "Mae celf yn adrodd straeon pwerus. Gall artistiaid adrodd straeon cymunedau y mae newid yn yr hinsawdd yn...

Cyfle

Rydym yn chwilio am ddylunydd… BRIFF DYLUNIO: Dogfen Cerrig Camu - Cynllun Gweithredu ar Reoli Llifogydd Cefndir: “Mae Grŵp Llifogydd Cymunedol Talybont (TCFG) wedi bod yn gweithio am y dri flynedd ddiwethaf ar brosiect i gasglu tystiolaeth o sut mae dŵr yn ymddwyn yn...

Celf , Sgyrsiau a Gweithdai

27.04.25 - Dydd Sul10:00 – 17:00Star of the Sea – Borth SY24 5HFDewch yn llu. Diwrnod o greadigrwydd ac rhannu gydag Artistiaid Preswyl Tir Canol: Veronica Calarco, Ailsa Mair, a Hannah Doyle! Dewch i archwilio'r cysylltiad rhwng celf, straeon, cymuned a'r byd...

Cyfle Artist Preswyl

Mae Tir Canol yn gymuned sy'n dylunio ac yn darparu canlyniadau cadarnhaol i natur a phobl trwy ein defnydd o'r tir a'r môr.Pobl Cymuned yn ymwneud â rheoli tir a môr ar gyfer natur a ni, sydd yn dathlu ein treftadaeth gyfoethog ac sy’n gynaliadwy Tir Cymuned sy'n...

Swydd Newydd – swyddog arfordir

Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â thîm gwych sy'n achub natur ac ysbrydoli pobl yn rhai o ardaloedd mwyaf cyfoethog bywyd gwyllt Cymru.     Rydym yn chwilio am rywun sy'n angerddol am ardal Dyfi, sy'n gweld y darlun mawr ac sydd â llygad am fanylion. Rhywun...

Taith gerdded Tir Canol

Dros yr haf fe wnaethom gyflwyno cyfres o deithiau cerdded rhad ac am ddim ar draws ardal prosiect Tir Canol. Nod y teithiau cerdded oedd ennyn diddordeb y cyhoedd gyda’r amrywiaeth eang o natur, coed a thirweddau o fewn yr ardal. Roedd y tywydd yn heriol weithiau...

LANSIO PROSIECT TIR CANOL ‘CYNNAL’

Cyfres o brosiectau cyffrous yn cael ei lansio trwy Tir Canol ar ôl derbyn cyllid gan sefydliad Esmeé Fairbairn.

Cyfrol o Gerddi – Y Ffermwr Gwyllt

Ar noson oer yn fis Chwefror 2022 daeth cynulleidfa o Fachynlleth at ei gilydd i ddathlu lansiad cyfrol o gerddi gan y bardd Sam Robinson yn yr Owain Glyndŵr. Yng nghwmni beirdd a chantorion yr ardal wnaeth Sam Robinson rhannu nifer o gerddi o’i gyfrol newydd Y...