Ein Hanes

Mae’n bwysig cofio sut wnaeth ein stori gychwyn.

Cyn Tir Canol, a cyn y cyfnod cyd-ddylunio, roedd cyfnod cychwynnol a ‘gwreiddiol’ prosiec O’r Mynydd i’r Môr. O 2017 tan fis Hydref 2019, roedd O’r Mynydd i’r Môr yn cael ei reoli gan Rewilding Britain. Mae’r cyfnod hwn wedi cael effaith sylweddol ar ddatblygiad y project, yn enwedig ar allu rhanddeiliaid i ymddiried yn y project.  

Dechreuodd project O’r Mynydd i’r Môr yn 2017, er mwyn archwilio’r posibiliadau o gynnal project adfer ecolegol mawr yn ardal Pumlumon. Fe wnaeth partneriaeth dan arweiniad Rewilding Britain gais i’r Rhaglen Tirweddau mewn Perygl (Endangered Landscapes Programme: ELP) am arian i gefnogi ecosystem ddynamig o gopa Pumlumon – y pwynt uchaf yng nghanolbarth Cymru – i lawr ac allan i Fae Ceredigion. Cafodd y project ei ariannu am gyfnod o 5  

mlynedd, â chyllideb o £3.4 miliwn. Cafodd ei lansio ym mis Hydref 2018. Ar ddiwedd 2018 a 2019 roedd y project yn wynebu beirniadaeth hallt gan aelodau o’r gymuned leol, gan gynnwys perchenogion tir a sefydliadau allweddol, ac o ganlyniad i hyn, tynnodd rhai partneriaid allan o’r Bartneriaeth. 

Ym mis Hydref 2019, fe wnaeth Rewilding Britain adael y project a dechreuodd y partneriaid oedd ar ôl ailsefydlu’r project. Ar ddiwedd 2019, cafodd partneriaeth O’r Mynydd i’r Môr ei hailsefydlu â threfniadau gwahanol ar gyfer partneriaid a staff, ac yn 2020 fe wnaethant gytuno i ddefnyddio dulliau newydd, gan gynnwys dwy flynedd o gyfnod cyd-ddylunio.

Ym mis Mehefin 2020, lansiodd y prosiect gyfnod datblygu o ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, defnyddiodd y prosiect ddulliau cyd-ddylunio, dulliau a meddyliau i ddatblygu gweledigaeth a Glasbrint ar gyfer sut y gallem fynd i’r afael ag achub natur yn yr ardal.

Roedd y cyfnod datblygu yma yn hanfodol wrth ddarparu llechen lân i ddechrau o’r dechrau yn dilyn y prosiect O’r Mynydd i’r Môr gwreiddiol, a’r heriau niferus a wynebodd hyn.

Ym mis Mai 2022 diddymwyd y bartneriaeth prosiect gwreiddiol a sefydlwyd partneriaeth newydd er mwyn cyflawni a dal y Glasbrint cyd-ddylunio ymlaen i’r dyfodol. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys ystod eang o sefydliadau ac unigolion sydd wedi bod yn rhan o’r broses gyd-ddylunio, neu wedi ymrwymo i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r Glasbrint. 

“Rydym yn falch iawn o’r hyn y mae’r Glasbrint yn ei gynrychioli, mae’n adlewyrchu lleisiau a gweledigaeth pobl yr ardal ac yn amlinellu syniadau am sut i gyflawni hyn.”

Llinell Amser

2018: Prosiect gwreiddiol O’r Mynydd i’r Môr yn lansio

2020: Prosiect yn cychwyn ailosod yn dilyn Rewilding Britain yn gadael y prosiect

2021: Gweithdai wyneb i wyneb yn cychwyn yn dilyn codi cyfyngiadau Cofid

2022: Cyhoeddi a rhannu’r Glasbrint, O’r Mynydd i’r Môr yn diddymu a phartneriaeth newydd i Tir Canol yn cael ei sefydlu