Mae Tir Canol yn cynnig cyfle i artistiaid ddatblygu a/neu gyflawni gwaith sy’n ceisio (ail)gysylltu cymunedau â’r tirweddau yn ein hardal ni o Ganolbarth Cymru. Rydym yn chwilio am artistiaid newydd a sefydledig o unrhyw ddisgyblaeth sydd â chysylltiad â’r dirwedd hon ac sy’n gweithio mewn ffordd sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol. Gellir defnyddio hyn i hwyluso cyfnod preswyl, creu darn o waith, darparu digwyddiadau ac ymgysylltu creadigol, neu unrhyw beth arall.

Bydd disgwyl i artistiaid penodol dreulio cyfanswm o fis yn gweithio yn ardal Tir Canol rhwng mis Medi 2026 a mis Chwefror 2027. Mae ‘na ffi artistiaid o £3000
Mae’r alwad agored hon yn fwriadol agored. Yn y ffurflen gais, gallwch chi nodi eich bwriadau eich hun a byddwn ni’n cynnig cymorth i chi gyflawni’r rhain o fewn yr amserlen. Mae’r cyfle’n agored i artistiaid o unrhyw ddisgyblaeth, e.e. celf weledol, celf perfformio neu gelf gymunedol. Mae hefyd yn agored i unrhyw gam mewn gyrfa.
Rydym yn disgwyl gweld rhywfaint o ymgysylltu amlwg â’r gymuned. Gallai hyn ddigwydd drwy sgyrsiau, gweithdai, digwyddiadau, neu unrhyw ddull arall. Prif nod y cyfle yw ceisio ailgysylltu cymunedau â’r dirwedd.
Rhaid i artistiaid ddeall a pharchu bywyd gwyllt, ecoleg a threftadaeth yr ardal.
Sut mae gwneud cais
Gallwch ddod o hyd i’r brîf llawn yma. I wneud cais, cyflwynwch ffurflen gais, gyda CV neu bortffolio a hyd at 5 delwedd, fideo, recordiad, i’w rhannu drwy ffeiliau ZIP, ffolderi a rennir yn Google Drive, Dropbox neu Wetransfer, erbyn 9am, 27 Gorffennaf 2026.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn ac a yw’n addas i chi, cysylltwch â Rosie Slay, swyddog ymgysylltu, ar rosie@tircanol.cymru