Celf , Sgyrsiau a Gweithdai

27.04.25 – Dydd Sul
10:00 – 17:00
Star of the Sea – Borth SY24 5HF

Dewch yn llu. Diwrnod o greadigrwydd ac rhannu gydag Artistiaid Preswyl Tir Canol: Veronica Calarco, Ailsa Mair, a Hannah Doyle! Dewch i archwilio’r cysylltiad rhwng celf, straeon, cymuned a’r byd naturiol.

Mae’r artistiaid wedi bod yn tynnu ysbrydoliaeth o bob rhan o’r Dyfi – o Gorris trwy Dalybont i’r Borth ac ar draws y cyffiniau. Mae’r artistiaid wedi cydweithio â grwpiau cymunedol ledled yr ardal i wneud y gwaith hwn a dyma gyfle olaf i gymryd rhan.

Cymerwch ran mewn gweithdai celf, mwynhewch berfformiadau byw, a chlywed gan yr artistiaid am eu gwaith. Mae’r digwyddiad yma yn rhan o’r Prosiect Cynnal, a ariennir gan Sefydliad Esmee Fairburn

Bydd Te a Choffi ar gael

Mae croeso i chi gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau. Os oes gennych anghenion mynediad ac eisiau cael sgwrs efo ni cyn archebu, rydym yn hapus i helpu: info@tircanol.cymru

Amserlen:
10:00 – 12:30: Gweithdai Print / basgedi
12:30 – 14:00: Cwrdd yr artistiad
14:00 – 15:00: Gweithdy / Apothecari DŴr
15:00 – 16:30: Gweithdai Print a Sgyrsiau
16:30 – 17:00: Perfformiad / 3 Diferyn

Cyfnod Preswyl Coetir

Mae Tir Canol a Coed Cadw yn cynnig cyfnod preswyl i artist, ar y thema coed a/neu goetiroedd. Dyma gyfle i artist ddatblygu a/neu gyflawni gwaith sy’n ceisio (ail)gysylltu cymunedau â’r tirweddau yn ein hardal ni o Ganolbarth Cymru. Rydym yn chwilio am artistiaid...

Dorry Spikes – Crwydryn

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi Dorry Spikes fel artist preswyl Tir Canol ar gyfer hydref/gaeaf 2026. Astudiodd Dory Ddarlunio ac Animeiddio ym Mhrifysgol Kingston ac aeth i’r ‘Flwyddyn Arlunio’ yn yr Ysgol Arlunio Frenhinol. Mae peintio a thynnu lluniau o brofiadau...

Sut gallwn ni leihau risg ac effaith llifogydd yn Nhal-y-bont? Adroddiad Llif

Sut daeth Llif i fodolaeth? Yn 2012, torrodd afonydd Ceulan a Leri eu glannau ym mhentref Tal-y-bont ger Aberystwyth yng Nghanolbarth Cymru. Cafodd hyn effaith drychinebus. Effeithiodd y llifogydd ar 27 o gartrefi a busnesau. Datblygwyd prosiect Llif mewn partneriaeth...

Tendr ar gyfer Gwerthuswr rhaglen Cynnal

Mae Tir Canol yn chwilio am ymgynghorydd i werthuso prosiect (Cynnal) sy'n rhan o raglen ehangach o waith. Gallwch ddarllen mwy am gefndir Tir Canol yma. Bydd y gwerthusiad yn cyfrannu at ein myfyrio ar ddatblygiad parhaus rhaglen Tir Canol, gan ein galluogi i...

Astudiaeth achos: Tyfu cnydau bresych y gaeaf ar fferm laeth

Fel rhan o’n prosiect treialon cnydau, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr lleol, gan gynnig cyngor, cyllid sbarduno, cysylltiadau â marchnadoedd lleol, ac offer i gefnogi cynhyrchu garddwriaeth yn lleol. Un ffermwr sy’n ymwneud â’r prosiect yw Menna Williams...

Galwad Agored i Artistiaid

Mae Tir Canol yn cynnig cyfle i artistiaid ddatblygu a/neu gyflawni gwaith sy’n ceisio (ail)gysylltu cymunedau â’r tirweddau yn ein hardal ni o Ganolbarth Cymru. Rydym yn chwilio am artistiaid newydd a sefydledig o unrhyw ddisgyblaeth sydd â chysylltiad â’r dirwedd...

Atal tanau gwyllt Cwm Rheidol

Mae Tir Canol yn gweithio mewn partneriaeth â Choed Cadw, sy’n rheoli coetir Allt Boeth ym mhen uchaf Cwm Rheidol, er mwyn cefnogi’r camau cyntaf wrth ddatblygu cynllun argyfwng Cymuned Cwm Rheidol. Mae’r syniad o gael cynllun wedi dod gan y gymuned, sydd wedi gweld...

Beth mae ein Swyddog Natur yn ei wneud?

Mae Ben Porter, Swyddog Natur Tir Canol, yn gweithio gyda pherchnogion tir a ffermwyr, gan gynnig arolygon bioamrywiaeth o’u tir, ac unrhyw goetir arno, i sefydlu eu gwerth a’u cyflwr ecolegol. Wedi hynny, byddwn yn cynnig cyllid ymyrraeth i’r safleoedd hynny lle mae...

Lansio Llawlyfr Newid Llanw

Lansio Newid Llanw - Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth. Credyd llun: Dan Jones Ddydd Gwener 27 Chwefror, fe wnaethom lansio Newid Llanw, llawlyfr ar addasiadau arfordirol sydd wedi cael ei lunio ar y cyd â chymunedau Dyfi. Nod y llawlyfr yw darparu’r adnoddau a’r...

Cyfle – Artist

Contract – Artist Ymgysylltu â’r Gymuned Artist Ymarfer sy'n Ymgysylltu'n Gymdeithasol ar gyfer prosiect cyd-ddylunio cymunedol Dyfi ynghylch addasu arfordirol "Mae celf yn adrodd straeon pwerus. Gall artistiaid adrodd straeon cymunedau y mae newid yn yr hinsawdd yn...