Digwyddiadau

Darganfyddwch am ddigwyddiadau prosiect Tir Canol a ffyrdd eraill o gymryd rhan. Peidiwch ag anghofio i gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol am y diweddariadau diweddaraf.

Arolygon coetir ar eich tir gan ein swyddog natur

Tachwedd 2023 – Ionawr 2024

Drwy hydref a gaeaf 2023, mae ein Swyddog Natur yn cynnal arolygon cyflwr coetiroedd mewn ardaloedd i’r de o aber Afon Dyfi. Mae’r arolygon wedi’u targedu at ddeall beth yw cyflwr ein coetiroedd Derw hynod arbennig, sef y coedwigoedd glaw celtaidd Cymru, a’i nod yw asesu pa gynefin addas sy’n bodoli ar gyfer rhai o’r rhywogaethau adar â blaenoriaeth sy’n dibynnu ar y cynefinoedd arbennig hyn. Bydd y gwaith yn bwydo i mewn i adroddiad sydd ar ddod ar ‘Gyflwr Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru’, ac mae hefyd yn gyfle gwych i ymgysylltu â thirfeddianwyr yn yr ardal i roi cymorth neu gyngor ar reoli coetiroedd. Os oes gennych chi goetiroedd ar eich tir y byddai gennych chi ddiddordeb yn eu harolygu fel rhan o’r gwaith hwn, cysylltwch â Ben drwy: ben.porter@tircanol.wales

Ffermio diddos: Gweithdy personol AM DDIM gyda Niels Corfield a’r Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur

Dydd Mercher 13 Rhagfyr – 10yb tan 3yp

Gweithdy ymarferol yn canolbwyntio ar wella gwytnwch a symud tuag at ffermio proffidiol heb gymhorthdal – dan arweiniad Niels Corfield. Bydd y gweithdy hwn yn rhannu dulliau sylfaenol ar gyfer dod yn fwy gwydn i ddigwyddiadau tywydd eithafol, tra’n cynyddu elw a chynnal cynnyrch. Cynhelir y gweithdy ar y cyd â’r Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur, ddydd Mercher 13 Rhagfyr ym Machynlleth. Cofrestrwch trwy’r ddolen eventbrite isod: https://www.eventbrite.co.uk/e/weatherproof-farming-machynlleth-tickets-759608117327?aff=ebdsoporgprofile