Ein Cyd-Ddylunio

Pam wnaethon ni ddefnyddio dull cyd-ddylunio?

Cyd-ddylunio – Rhoi mwy o rym yn ôl i ddinasyddion, gan greu perthnasoedd a datrysiadau mwy cynaliadwy! Mae cyd-ddylunio yn golygu dylunio gyda yn hytrach nag ar ran pobl. Mae’n fudiad cymdeithasol, set o feddyliau a gwerthoedd, a set o offer i’w defnyddio ar gyfer dylunio. Mae cyd-ddylunio yn mynd gam ymhellach na dim ond cynnwys pobl mewn prosiect, fel ymgynghori neu ymgysylltu â’r gymuned. Mae’n golygu rhannu pŵer a gwneud penderfyniadau gyda’n gilydd.

“Mae Tir Coed yn cysylltu pobl â Thir a Choed trwy ddarparu rhaglenni hyfforddi, dysgu a lles awyr agored ar draws Ceredigion, Powys, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Cawsom ein hysbrydoli gan broses gydweithredol y prosiect a alluogodd cymunedau i gyd-greu “Glasbrint” sy’n adlewyrchu asedau ac anghenion lleol. Rydym yn falch o fod yn rhan o’r bartneriaeth a fydd yn cyflawni ei gweithredoedd.” 

Cath Seymour

Tir Coed

8 gweithdy

13 sesiwn galw heibio

22 sgwrs ar gyfer grwpiau a sefydliadau

30+ Aelod o'r Grwp Cyswllt

300+ O bobl yn rhan o'r broses cyd-ddylunio

Clywsom am ba heriau rydyn ni’n eu hwynebu’n lleol, a’r mathau o ddatrysiad y gallem eu cynllunio i fynd i’r afael â’r rhain.  

Trwy gydol y broses ddylunio clywyd neges glir am yr awydd i ddarparu datrysiadau sydd wedi eu teilwra i ganolbarth Cymru er mwyn cynnal ac adfer tirwedd cynhyrchiol lle mae natur yn ffynnu. Mae pobl yn credu y gall y datrysiadau hyn adeiladu ar bethau da sydd yn digwydd yn yr ardal eisoes, tra’n edrych am gyfleoedd newydd gyda’n gilydd ar yr un pryd.  

I ddarllen y Glasbrint yn fanwl cliciwch yma. 

I ddarllen am yr hyn ddysgon ni o ddatblygu prosiect trwy broses cyd-ddylunio cliciwch yma.

 

Gwyliwch Swyddog Ddatblygu’r prosiect, Siân Stacey yn trafod y broses cyd-ddylunio gyda’r artistiaid preswyl TAIR Colectif – Manon Awst, Beth Celyn a Judith Musker Turner. 

Cafodd ei recordio yn Chwefror 2002, felly cyfeirir at y prosiect fel O’r Mynydd i’r Môr drwy gydol y cyfweliad. Dyma oedd enw’r prosiect yn ystod y cyfnod cyd-ddylunio. 

 
 
 
 
 
View this post on Instagram
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

A post shared by Tir Canol (@tircanol)