Cyfle – Artist

Contract – Artist Ymgysylltu â’r Gymuned

Artist Ymarfer sy’n Ymgysylltu’n Gymdeithasol ar gyfer prosiect cyd-ddylunio cymunedol Dyfi ynghylch addasu arfordirol

“Mae celf yn adrodd straeon pwerus. Gall artistiaid adrodd straeon cymunedau y mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnynt, heriau y mae ymgyrchwyr yn eu hwynebu, neu’r posibilrwydd o ddyfodol mwy cynaliadwy – drwy baentiadau, cerfluniau, ffotograffau, neu hyd yn oed gelf perfformio. Gall y straeon hyn ddangos y broblem o safbwynt dynol a’i gwneud yn berthnasol.”

(Muhammed Badamasi ac Idongesit Amba, 2022)

Rydym yn chwilio am artist i gefnogi a datblygu archwiliad creadigol a chydweithredol er mwyn helpu i gyflwyno ein llawlyfr addasiadau arfordirol digidol a ddylunnir ar y cyd.

Mae Tir Canol wedi bod yn gweithio gyda chymuned Dyfi ers tymor yr hydref 2024 i gyd-ddylunio llawlyfr a fydd yn helpu aelodau’r gymuned i ddeall y newidiadau posibl i’r arfordir yn sgil y newid yn yr hinsawdd, a’r dulliau a ddefnyddir i reoli’r newid. Gweledigaeth y gwaith hwn yw grymuso cymunedau y mae newid hinsawdd yn effeithio arnynt, a rhoi’r wybodaeth a’r pŵer iddynt ymgysylltu ag ymgyngoriadau a phenderfyniadau sy’n effeithio ar eu tirwedd.

Mae ein Swyddog Arfordir gwych, a fydd yn mynd ar absenoldeb mamolaeth ddiwedd mis Medi, eisoes wedi dechrau ar y gwaith hwn. Er mwyn parhau i gynnal a datblygu’r cysylltiadau a ffurfiwyd yn ystod y broses hyd yma, rydym yn chwilio am Artist Ymgysylltu â’r Gymuned i gamu i’r adwy a sicrhau parhad yn y berthynas â’r gymuned.

Rydym yn disgwyl i’r Artist Ymgysylltu â’r Gymuned gefnogi nodau ehangach y prosiect, gan alluogi’r dylunwyr a thîm Tir Canol i gryfhau’r gwaith gydag ardal a chymuned Dyfi.

Hoffem i’r contract ddod i rym ddechrau mis Awst i roi amser i’r Artist ymgynefino â’r tîm a’r gymuned a dod yn rhan o’r grŵp cyd-ddylunio, gan ddefnyddio offer a phrosesau creadigol yn ystod y cam hwn o’r gwaith.

Bydd cyfleoedd i’r Artist Ymgysylltu â’r Gymuned gymryd rhan yn y gweithdai cyd-ddylunio lle caiff y llawlyfr ei ddylunio. Ar ôl cwblhau’r holl weithdai yn yr hydref, bydd cyfnod o gasglu gwybodaeth ynghyd ar gyfer y llawlyfr digidol ac asedau eraill.

Yn ogystal â mynychu’r gweithdai cyd-ddylunio, rydym yn rhagweld y bydd yr Artist Ymgysylltu â’r Gymuned yn treulio amser gyda chymuned Dyfi, yn ymgysylltu, yn gwrando ac yn myfyrio ar eu cyd-destun hinsawdd, gan dreulio’r rhan fwyaf o’r amser yn y lleoliad rhwng mis Awst a mis Ionawr.

Canlyniadau Disgwyliedig

Nod y prosiect hwn yw cyflawni’r canlyniadau allweddol canlynol:

  • Grymuso’r Grŵp Cyd-ddylunio: Bydd aelodau’r grŵp cyd-ddylunio yn deall yn glir bod angen llawlyfr addasiadau dan arweiniad y gymuned, ac yn gallu egluro hyn.
  • Codi Ymwybyddiaeth yn y Gymuned: Bydd cymuned ehangach Dyfi yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r rhagolygon ar gyfer dyfodol eu hardal, ochr yn ochr â strategaethau posibl i leihau’r effeithiau negyddol neu addasu iddynt.
  • Adnoddau a Grym i’r Gymuned: Bydd gan gymuned Dyfi fynediad at adnodd gwerthfawr sy’n eu grymuso i ddeall ac ymateb yn effeithiol i gynigion y llywodraeth ar gyfer cynlluniau addasu arfordirol yn y dyfodol.
  • Rôl Ganolog yr Artist: Nid creu gwaith celf penodol yw rôl yr artist. Yn hytrach, bydd yn rhan ganolog o’r broses o archwilio ffyrdd effeithiol o gyfleu gwybodaeth am newid hinsawdd i gynulleidfaoedd amrywiol. Bydd hefyd yn hwyluso’r gwaith o gynllunio addasiadau cydlynol dan arweiniad y gymuned drwy brosesau creadigol a chynhwysol.

Amserlen:

Rydym yn chwilio am Artist sy’n gallu ymrwymo i 35 diwrnod yn ardal Dyfi rhwng mis Awst 2025 a mis Ionawr 2026.

dyddiadau allweddol y gweithdy 18fed Awst, 8fed Medi, 2il Hydref

Gofynion

Byddem yn disgwyl i’r Artist feddu ar sgiliau cyfathrebu da yn Gymraeg ac yn Saesneg i gyflawni’r rôl hon. Rydym yn chwilio am artistiaid sydd â chysylltiad clir ag ardal Dyfi, a dealltwriaeth o’r cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw.

Cyllideb

£300 y dydd x 35 diwrnod = £10,500

Deunyddiau = £1000

Cyllideb teithio a chynhaliaeth i’w thrafod

Sut mae gwneud cais:

  • Llythyr eglurhaol neu ffilm fer yn nodi
  • Pam rydych chi’n awyddus fod yn rhan o’r prosiect hwn
  • Methodoleg glir sy’n amlinellu sut byddech yn mynd ati ac yn datblygu perthynas â’r gymuned
  • CV ac enghreifftiau o waith blaenorol
  • Manylion canolwr

Dyddiad cau

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 12pm ar 28 Gorffennaf

Cyfweliadau ar 1 Awst

Anfonwch geisiadau i Reolwr y Rhaglen Tir Canol, Alice Briggs

Alice.briggs@rspb.org.uk

Nature Networks Fund (round two) | The National Lottery Heritage Fund

Atal tanau gwyllt Cwm Rheidol

Mae Tir Canol yn gweithio mewn partneriaeth â Choed Cadw, sy’n rheoli coetir Allt Boeth ym mhen uchaf Cwm Rheidol, er mwyn cefnogi’r camau cyntaf wrth ddatblygu cynllun argyfwng Cymuned Cwm Rheidol. Mae’r syniad o gael cynllun wedi dod gan y gymuned, sydd wedi gweld...

Beth mae ein Swyddog Natur yn ei wneud?

Mae Ben Porter, Swyddog Natur Tir Canol, yn gweithio gyda pherchnogion tir a ffermwyr, gan gynnig arolygon bioamrywiaeth o’u tir, ac unrhyw goetir arno, i sefydlu eu gwerth a’u cyflwr ecolegol. Wedi hynny, byddwn yn cynnig cyllid ymyrraeth i’r safleoedd hynny lle mae...

Lansio Llawlyfr Newid Llanw

Lansio Newid Llanw - Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth. Credyd llun: Dan Jones Ddydd Gwener 27 Chwefror, fe wnaethom lansio Newid Llanw, llawlyfr ar addasiadau arfordirol sydd wedi cael ei lunio ar y cyd â chymunedau Dyfi. Nod y llawlyfr yw darparu’r adnoddau a’r...

Cyfle

Rydym yn chwilio am ddylunydd… BRIFF DYLUNIO: Dogfen Cerrig Camu - Cynllun Gweithredu ar Reoli Llifogydd Cefndir: “Mae Grŵp Llifogydd Cymunedol Talybont (TCFG) wedi bod yn gweithio am y dri flynedd ddiwethaf ar brosiect i gasglu tystiolaeth o sut mae dŵr yn ymddwyn yn...

Celf , Sgyrsiau a Gweithdai

27.04.25 - Dydd Sul10:00 – 17:00Star of the Sea – Borth SY24 5HFDewch yn llu. Diwrnod o greadigrwydd ac rhannu gydag Artistiaid Preswyl Tir Canol: Veronica Calarco, Ailsa Mair, a Hannah Doyle! Dewch i archwilio'r cysylltiad rhwng celf, straeon, cymuned a'r byd...

Datganiadau o ddiddordeb ar gyfer Treialon Cnydau Dyfi a Rheidol

Treialon Cnydau Dyfi a Rheidol yn chwilio am ffermwyr a thyfwyr! Ydych chi’n ffermwr neu dyfwr sy’n byw yn nyffryn Dyfi neu Rheidol? Oes gennych chi ddiddordeb dargyfeirio eich fferm i gynnwys cynhyrchu llysiau, neu ehangu ar y cnydau bwytadwy a gynhyrchir ar eich...

Cyfle Artist Preswyl

Mae Tir Canol yn gymuned sy'n dylunio ac yn darparu canlyniadau cadarnhaol i natur a phobl trwy ein defnydd o'r tir a'r môr.Pobl Cymuned yn ymwneud â rheoli tir a môr ar gyfer natur a ni, sydd yn dathlu ein treftadaeth gyfoethog ac sy’n gynaliadwy Tir Cymuned sy'n...

Swydd Newydd – swyddog arfordir

Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â thîm gwych sy'n achub natur ac ysbrydoli pobl yn rhai o ardaloedd mwyaf cyfoethog bywyd gwyllt Cymru.     Rydym yn chwilio am rywun sy'n angerddol am ardal Dyfi, sy'n gweld y darlun mawr ac sydd â llygad am fanylion. Rhywun...

Taith gerdded Tir Canol

Dros yr haf fe wnaethom gyflwyno cyfres o deithiau cerdded rhad ac am ddim ar draws ardal prosiect Tir Canol. Nod y teithiau cerdded oedd ennyn diddordeb y cyhoedd gyda’r amrywiaeth eang o natur, coed a thirweddau o fewn yr ardal. Roedd y tywydd yn heriol weithiau...

LANSIO PROSIECT TIR CANOL ‘CYNNAL’

Cyfres o brosiectau cyffrous yn cael ei lansio trwy Tir Canol ar ôl derbyn cyllid gan sefydliad Esmeé Fairbairn.