Ein Cynllun

Mae’r Glasbrint yn mynegi’r weledigaeth, y themâu a’r syniadau a ddyluniwyd gan bobl yn ystod y cyfnod datblygu.

Clywsom gan bobl leol am yr awydd dwfn i fynd i’r afael a heriau’r dyfodol mewn modd cadarnhaol, meddwl yn fyd-eang a gweithredu’n lleol yn hytrach nag ymateb i agenda eraill.

Clywsom hefyd am yr angerdd dros ddysgu o’n hanes cyfoethog sy’n rhan annatod o’r tir, ac i rannu hynny yn lleol a thu hwnt er mwyn cael effaith bositif ar y tir. Drwy hynny mae gobaith y gallwn arloesi a chysylltu gweithgareoedd lleol er mwyn cael effaith ar raddfa mwy eang.

Mae dymuniad i weld cymuned wedi’i grymuso, sy’n cydweithio’n agosach, a sy’n rhoi rheolaeth a pherchnogaeth o’u blaenoriaethau  yn nwylo pobl leol. Hoffent rannu’r arferion da a’r wybodaeth leol gyda balchder, er mwyn gwella’r ardal leol er budd byd natur, ni’n hunain, cwsmeriaid ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Ein dull:

Cyd-gynhyrchu

 

Yr Themau:

  • Rheoli Tir a Mor
  • Cysylltiadau Dynol
  • Ymchwil, Datblygiad a Dysgu ar y cyd
  • Naratif a Pholisi

“Mae’r tir a’r môr mor gysylltiedig â’i gilydd, mae’n hynod bwysig ein bod yn gweithio mewn partneriaeth er budd y ddau. Mae Tir Canol yn gyfle gwych i archwilio hyn ymhellach ac adeiladu ar waith anhygoel yn yr ardal

Alison Palmer Hargrave

Pen Llŷn a’r Sarnau / Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)

Sut ydyn ni’n mynd i gyflawni hyn?

Mae gennym ni’r bobl, yr uchelgais, ond mae angen yr arian arnom i gyflawni ein Glasbrint. 

Rydyn ni’n cael cefnogaeth ar hyn o bryd gan RSPB Cymru, sef ariannu un aelod staff llawn amser. Rydym hefyd yn cael cefnogaeth gan gronfa fechan o gyllid gan Coed Cadw, ac oriau gwirfoddol y rheini o fewn y bartneriaeth a’r gymuned ehangach.  

Mae gennym gyfrifoldeb ar ran y rhai a gymerodd ran yn y broses gyd-ddylunio i sicrhau cyllid i ddarparu’r Glasbrint. Mae’n debyg y bydd hyn yn golygu amrywiaeth o arian grant, cyllid torfol, buddsoddiad preifat a gweithgarwch cynhyrchu incwm.