Amdanom Ni

Beth yw Tir Canol?

Cymuned sy’n dylunio ac yn darparu canlyniadau cadarnhaol ar gyfer natur a phobl drwy ein defnydd o’r tir a môr. 

Ble mae Tir Canol yn gweithio?

Rydyn ni’n defnyddio Afon Dyfi yn y gogledd ac Afon Rheidol yn y de fel ein ffiniau dychmygol daearyddol, naturiol. Wrth i Tir Canol barhau i ddatblygu ac wrth i bobl arwain ar feysydd penodol o ddiddordeb, bydd hyn adlewyrchu ar yr ardal ddaearyddol o bwys ar gyfer y prosiect hwn.   

Pam?

Rydym yn wynebu cwymp enfawr mewn bioamrywiaeth a phroblemau ecolegol a hinsawdd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae Tir Canol yn ceisio datblygu syniadau am sut y gallem ni gydweithio fel cymuned er mwyn gwella ein hardal er lles pobl a byd natur.

Beth yw ystyr Tir Canol?

Tir Canol = Middle Ground. 

Mae’r enw yma wedi ei ddatblygu gyda’r gymuned ac yn cynrychioli dwy elfen bwysig: 

  1. Ein hardal leol – rydyn ni’n canolbwyntio ar ardal yng nghanolbarth Cymru, yn fras rhwng Afon Dyfi ac Afon Rheidol.

  1. Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â chyfarfod yn y canol, cydweithio a pharchu ein hystod o brofiadau ac arbenigedd. Mae’r syniad o ddal y tir canol yn hollol bwysig i ni.

Mae’n hawdd cael syniadau radical ar iechyd y tir a’r môr, ond dim ond rhannu’r syniadau gyda phobl sy’n cytuno â chi. Mae’n hawdd datgan newid ar raddfa tirwedd, ond dim ond gweithio mewn mannau gydag un neu ddau o sefydliadau mawr sy’n berchen tir. Mae’n hawdd awgrymu hefyd bod tynged y blaned yn dibynnu ar benderfyniadau ffordd o fyw bach unigol. 

Y ffordd galed

I ddod o hyd i’n tir canol, roedd rhaid cymryd y ffordd galed. Rydym wedi gwrthod cyllid rhyngwladol nad oedd yn cyd-fynd â’n taith, ac wedi bod yn barod i gefnu ar y prosiect cyfan yn hytrach na pharhau gyda rhywbeth heb y gefnogaeth ehangaf. Mae gan ein hardal ni yng Nghanolbarth Cymru gannoedd o dirfeddianwyr, pob un â gwahanol daliadau, gofidiau, hanes a syniadau. 

Cyd-ddylunio ystyrlon

Dim ond os gallem weithio allan sut i’w gyd-ddylunio’n ystyrlon y gellid caniatáu i’r prosiect hwn barhau, Gallwch weld mwy ar gyd-ddylunio yma, ond yn gryno mae hyn yn golygu ein bod ni wedi:

  • Cynnal dwsinau o weithdai, cyfarfodydd, cyfweliadau a thrafodaethau anffurfiol
  • Gwneud y project yn gwbl ddwyieithog ac wedi’i wreiddio yn niwylliant Cymru
  • Creu strwythur llywodraethu sy’n ei gwneud yn amhosib i un llais neu garfan wyro cyfeiriad y prosiect
  • Treulio amser hir iawn heb wybod beth allai’r prosiect fod! Mae’n anodd iawn gwahodd pobl i fod yn rhan o rywbeth pan nad ydych chi’n gwybod beth yw e!