Cymryd Rhan

PERCHENNOG TIR NEU FFERMWR?

Mae gan Tir Canol a’i bartneriaid arbenigedd a chyllid prosiect i gefnogi ffermwyr a thirfeddianwyr i ddeall y bywyd gwyllt ar eu tir ac i wella ac ehangu’r cynefinoedd y maent yn eu rheoli. Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf a byddwn yn eich helpu i gael mynediad at yr holl gymorth sydd ar gael, fel na fydd yn rhaid i chi gysylltu â llawer o sefydliadau gwahanol eich hun.

Mae rhai o’r cymorth y gallwn eich helpu i gael mynediad iddo yn cynnwys:

    • Asesiadau cynefin fferm gyfan a chynlluniau gweithred
    • Creu coetir a gwrychoedd
    • Arolygon afonydd ac adfer
    • Arolygon mawndiroedd a gwaith adfer
    • Arolygon coed a choetiroedd hynafol
    • Profi, dadansoddi a dehongli pridd
    • Cynlluniau rheoli maetholion
    • Asesiadau carbon
    • Cymorth ar gyfer ymuno â chynlluniau amaeth-amgylcheddol a Ffermio Cynaliadwy yn y dyfodol

Gallwch gysylltu â Tir Canol drwy:: info@tircanol.cymru

Darllenwch fwy am y gwaith y mae ein partneriaid yn ei wneud gyda ffermwyr a thirfeddianwyr yma 

 

Aelod o’n gymuned? 

Mae’n bwysig iawn i ni ein bod ni’n helpu ein gilydd i gysylltu â sut mae ein tir a môr yn cael eu rheoli er lles natur.

Rydym yn gobeithio rhannu fwy o gyfleoedd i wirfoddoli, dysgu a dathlu’r gwaith da sy’n digwydd yma efo’n gilydd yn fuan iawn.  

 

Eisiau fod yn partner? 

Mae ein partneriaeth yn tyfu yn barhaol ac rydym yn agored iawn i bartneriaid newydd. Rydym yn cyfarfod yn aml i rannu ein gwaith a chynllunio gyda’n gilydd.. Rydym yn cyfarfod yn aml I rhannu ei’n gwaith a chynllunio gyda’n gilydd. Os hoffech drefnu sgwrs gyda ni am ddod yn bartner, cliciwch yma 

 

Oes gennych ddiddordeb mewn buddsoddi? 

Ar hyn o bryd mae Tir Canol yn cael ei ariannu drwy RSPB Cymru a chyllid craidd Coed Cadw, ond dim ond i gyllido hwylusrwydd parhaol y rhaglen.

Mae partneriaid Tir Canol yn edrych ar ystod o gyfleoedd ariannu a buddsoddi i ddod â’n cynllun yn fyw. Rydym am brofi ein syniadau, dysgu o’r cynlluniau peilot hyn ac yna adeiladu prosiectau mwy a gwell sy’n helpu natur i ffynnu ochr yn ochr â’n defnydd presennol a’r môr yn y dyfodol.

Mae rhai o’r cyfleoedd cyllido hyn yn cynnwys archwilio ffrydiau ariannu arloesol, cyllid sy’n sicrhau newid cadarnhaol i fyd natur a’r hinsawdd gyda phobl yn ganolog iddi. Os yw hyn yn rhywbeth y mae gennych ddiddordeb mewn ariannu neu fuddsoddi ynddo, cysylltwch â ni am sgwrs.

Cofrestrwch i'n cylchlythyr

Os hoffech gadw mewn cysylltiad â’r holl ddatblygiadau diweddaraf o Tir Canol cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr yma.