
Ein Gweledigaeth
Cymuned sy’n ddylunio ac yn darparu canlyniadau positif i natur a phobl drwy ein defnydd o’r tir a môr.
Pobl – cymuned yn ymwneud â rheoli tir a môr i natur a ni, sydd yn dathlu ein treftadaeth lleol ac sy’n gynaliadwy
Tir – cymuned sy’n gweithio ar raddfa tirwedd er lles natur
Dŵr – afonydd ac arfordiroedd glân ac yn iach
Natur – mae natur yn ffynnu fel rhan o’n cymuned
EIN CYNLLUN
Mae ein cynllun yn cael ei gyflwyno yn ein Glasbrint. Mae’n amlinellu’r weledigaeth gafodd ei gyd-ddylunio mewn un ddogfen, gan adlewyrchu ein dymuniad i gydweithio’n agosach, a chynyddu rheolaeth leol a pherchnogaeth o’n blaenoriaethau. Mae’n disgrifio sut hoffen ni rannu yr arferion da a’r wybodaeth leol gyda balchder, er mwyn gwella’r ardal er budd byd natur, ni’n hunain, ymwelwyr a chwsmeriaid ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
EIN DULL:
Cyd-gynhurchu
EIN THEMAU:
- Rheoli Tir a Môr
- Cysylltiadau Dynol
- Ymchwil, datblygiad a dysgu ar y cyd
- Naratif a Pholisi
Ble?
Sut?

Ymrwymiad di-flino i gyd-ddylunio'n ystyrlon

Pobl ar bob ochr o'r drafodaeth a gwleidyddiaeth y tir yn cymryd rhan

30+ aelodau o'r Grwp Cyswllt

300+ pobl yn rhan o'r cynllun dylunio
Mae gennym ni’r bobl, yr uchelgais, ac rydym wedi cychwyn ymchwilio sut i gyflawni ein syniadau.
Rydyn ni’n cael cefnogaeth ar hyn o bryd gan RSPB Cymru, sy’n ariannu un aelod staff llawn amser. Rydym hefyd yn cael ein cefnogi gan bot bychan o gyllid gan Coed Cadw, ac oriau gwirfoddol y rheini o fewn y bartneriaeth a’r gymuned ehangach.
Mae gennym gyfrifoldeb ar ran y rhai a gymerodd ran yn y broses gyd-ddylunio i ddarparu ein Glasbrint. Mae’n debyg y bydd hyn yn golygu amrywiaeth o arian grant, cyllid torfol, buddsoddiad preifat a gweithgareddau cynhyrchu incwm.