Lansio Llawlyfr Newid Llanw

Person yn darllen llawlyfr llanw newid
Lansio Newid Llanw – Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth. Credyd llun: Dan Jones

Ddydd Gwener 27 Chwefror, fe wnaethom lansio Newid Llanw, llawlyfr ar addasiadau arfordirol sydd wedi cael ei lunio ar y cyd â chymunedau Dyfi. Nod y llawlyfr yw darparu’r adnoddau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar drigolion lleol, rhanddeiliaid a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn addasu i dirwedd arfordirol sy’n esblygu. Mae ar gael ar-lein a bydd nifer cyfyngedig o gopïau caled.

Mae’r llawlyfr yn rhoi gwybodaeth am ffyrdd y gallwn ddiogelu cynefinoedd bregus, storio carbon, cefnogi iechyd a llesiant, a helpu i ddiogelu seilwaith lleol. Mae hefyd yn darparu dolenni i flaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer llythrennedd cefnforol, buddsoddiad glas, a meithrin gallu cymunedau i arwain newid ystyrlon. Datblygwyd y deunydd drwy gyfres o weithdai cyd-ddylunio rhwng 2024 a 2025, ac mae’n cyfuno gwybodaeth a phrofiad lleol gyda dulliau gwyddonol.

Lansiwyd y llawlyfr mewn digwyddiad yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, lle cafwyd trafodaeth banel ar y pwnc ‘Tir, Iaith a Pherthyn’ gyda’r awdur Elinor Gwynn, swyddog natur Tir Canol, Ben Porter a Jill Bullen Hulse, cynghorwr arbenigol ar Dirwedd a Threftadaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru.

Prosiect Tir Canol yw Newid Llanw, sy’n cael ei arwain gan RSPB Cymru a’i ariannu gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur – rhaglen sy’n cael ei darparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru gyda’r nod o gryfhau gwydnwch safleoedd morol a thir gwarchodedig Cymru, a chyflymu adferiad natur.

Cyfnod Preswyl Coetir

Mae Tir Canol a Coed Cadw yn cynnig cyfnod preswyl i artist, ar y thema coed a/neu goetiroedd. Dyma gyfle i artist ddatblygu a/neu gyflawni gwaith sy’n ceisio (ail)gysylltu cymunedau â’r tirweddau yn ein hardal ni o Ganolbarth Cymru. Rydym yn chwilio am artistiaid...

Dorry Spikes – Crwydryn

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi Dorry Spikes fel artist preswyl Tir Canol ar gyfer hydref/gaeaf 2026. Astudiodd Dory Ddarlunio ac Animeiddio ym Mhrifysgol Kingston ac aeth i’r ‘Flwyddyn Arlunio’ yn yr Ysgol Arlunio Frenhinol. Mae peintio a thynnu lluniau o brofiadau...

Sut gallwn ni leihau risg ac effaith llifogydd yn Nhal-y-bont? Adroddiad Llif

Sut daeth Llif i fodolaeth? Yn 2012, torrodd afonydd Ceulan a Leri eu glannau ym mhentref Tal-y-bont ger Aberystwyth yng Nghanolbarth Cymru. Cafodd hyn effaith drychinebus. Effeithiodd y llifogydd ar 27 o gartrefi a busnesau. Datblygwyd prosiect Llif mewn partneriaeth...

Tendr ar gyfer Gwerthuswr rhaglen Cynnal

Mae Tir Canol yn chwilio am ymgynghorydd i werthuso prosiect (Cynnal) sy'n rhan o raglen ehangach o waith. Gallwch ddarllen mwy am gefndir Tir Canol yma. Bydd y gwerthusiad yn cyfrannu at ein myfyrio ar ddatblygiad parhaus rhaglen Tir Canol, gan ein galluogi i...

Astudiaeth achos: Tyfu cnydau bresych y gaeaf ar fferm laeth

Fel rhan o’n prosiect treialon cnydau, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr lleol, gan gynnig cyngor, cyllid sbarduno, cysylltiadau â marchnadoedd lleol, ac offer i gefnogi cynhyrchu garddwriaeth yn lleol. Un ffermwr sy’n ymwneud â’r prosiect yw Menna Williams...

Galwad Agored i Artistiaid

Mae Tir Canol yn cynnig cyfle i artistiaid ddatblygu a/neu gyflawni gwaith sy’n ceisio (ail)gysylltu cymunedau â’r tirweddau yn ein hardal ni o Ganolbarth Cymru. Rydym yn chwilio am artistiaid newydd a sefydledig o unrhyw ddisgyblaeth sydd â chysylltiad â’r dirwedd...

Atal tanau gwyllt Cwm Rheidol

Mae Tir Canol yn gweithio mewn partneriaeth â Choed Cadw, sy’n rheoli coetir Allt Boeth ym mhen uchaf Cwm Rheidol, er mwyn cefnogi’r camau cyntaf wrth ddatblygu cynllun argyfwng Cymuned Cwm Rheidol. Mae’r syniad o gael cynllun wedi dod gan y gymuned, sydd wedi gweld...

Beth mae ein Swyddog Natur yn ei wneud?

Mae Ben Porter, Swyddog Natur Tir Canol, yn gweithio gyda pherchnogion tir a ffermwyr, gan gynnig arolygon bioamrywiaeth o’u tir, ac unrhyw goetir arno, i sefydlu eu gwerth a’u cyflwr ecolegol. Wedi hynny, byddwn yn cynnig cyllid ymyrraeth i’r safleoedd hynny lle mae...

Cyfle – Artist

Contract – Artist Ymgysylltu â’r Gymuned Artist Ymarfer sy'n Ymgysylltu'n Gymdeithasol ar gyfer prosiect cyd-ddylunio cymunedol Dyfi ynghylch addasu arfordirol "Mae celf yn adrodd straeon pwerus. Gall artistiaid adrodd straeon cymunedau y mae newid yn yr hinsawdd yn...

Cyfle

Rydym yn chwilio am ddylunydd… BRIFF DYLUNIO: Dogfen Cerrig Camu - Cynllun Gweithredu ar Reoli Llifogydd Cefndir: “Mae Grŵp Llifogydd Cymunedol Talybont (TCFG) wedi bod yn gweithio am y dri flynedd ddiwethaf ar brosiect i gasglu tystiolaeth o sut mae dŵr yn ymddwyn yn...