Beth mae ein Swyddog Natur yn ei wneud?

Mae Ben Porter, Swyddog Natur Tir Canol, yn gweithio gyda pherchnogion tir a ffermwyr, gan gynnig arolygon bioamrywiaeth o’u tir, ac unrhyw goetir arno, i sefydlu eu gwerth a’u cyflwr ecolegol. Wedi hynny, byddwn yn cynnig cyllid ymyrraeth i’r safleoedd hynny lle mae Ben a’r ffermwr wedi cytuno ar gamau gweithredu ar gyfer gwella. 

Hyd yma, mae ei arolygon o’r ffridd (y parth trawsnewid rhwng yr iseldiroedd caeedig ac ucheldiroedd agored ffermydd) wedi datgelu sawl rhywogaeth restredig goch gan gynnwys Llinosiaid Linaria cannabina, Crec yr Eithin Saxicola rubetra, Corhedydd y Coed Anthus trivialis, Telor yr Helyg Phylloscopus trochilus, a’r Bras Melyn Emberiza citrinella.   

Mae’r rhywogaethau hyn yn ffynnu lle ceir cyfuniad o goed gwasgaredig a phrysgwydd, felly mae’n bwysig bod dulliau fel ‘plannu coed heb ffensys’ (plannu coed ifanc tal unigol mewn ardaloedd o fieri neu eithin isel gyda digonedd o le rhyngddynt) yn cael eu defnyddio i sicrhau bod y cynefin hwn yng Nghymru yn parhau i fod yn hafan i’r rhywogaethau hyn sydd mewn perygl.

 

Mae Ben yn gallu cyfeirio at fathau eraill o amaeth-goedwigaeth gan ddefnyddio adnoddau y gellir eu lawrlwytho ar gyfer pherchnogion tir a ffermwyr ar dudalen we Coed Cadw Cefnogaeth i Ffermwyr a Pherchnogion Tir yng Nghymru.  Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys rheoli gwrychoedd, coed mewn caeau, plannu torlannol, lleiniau cysgod, a systemau coed-ac-aredig.  

Mae amser a chefnogaeth Ben, ynghyd â’r adnoddau hyn y gellir eu lawrlwytho, yn bosibl oherwydd Coed Cadw, gyda chefnogaeth gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl. 

Cysylltwch â ni os ydych chi am wybod sut gall Ben gefnogi eich tir.

Cyfnod Preswyl Coetir

Mae Tir Canol a Coed Cadw yn cynnig cyfnod preswyl i artist, ar y thema coed a/neu goetiroedd. Dyma gyfle i artist ddatblygu a/neu gyflawni gwaith sy’n ceisio (ail)gysylltu cymunedau â’r tirweddau yn ein hardal ni o Ganolbarth Cymru. Rydym yn chwilio am artistiaid...

Dorry Spikes – Crwydryn

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi Dorry Spikes fel artist preswyl Tir Canol ar gyfer hydref/gaeaf 2026. Astudiodd Dory Ddarlunio ac Animeiddio ym Mhrifysgol Kingston ac aeth i’r ‘Flwyddyn Arlunio’ yn yr Ysgol Arlunio Frenhinol. Mae peintio a thynnu lluniau o brofiadau...

Sut gallwn ni leihau risg ac effaith llifogydd yn Nhal-y-bont? Adroddiad Llif

Sut daeth Llif i fodolaeth? Yn 2012, torrodd afonydd Ceulan a Leri eu glannau ym mhentref Tal-y-bont ger Aberystwyth yng Nghanolbarth Cymru. Cafodd hyn effaith drychinebus. Effeithiodd y llifogydd ar 27 o gartrefi a busnesau. Datblygwyd prosiect Llif mewn partneriaeth...

Tendr ar gyfer Gwerthuswr rhaglen Cynnal

Mae Tir Canol yn chwilio am ymgynghorydd i werthuso prosiect (Cynnal) sy'n rhan o raglen ehangach o waith. Gallwch ddarllen mwy am gefndir Tir Canol yma. Bydd y gwerthusiad yn cyfrannu at ein myfyrio ar ddatblygiad parhaus rhaglen Tir Canol, gan ein galluogi i...

Astudiaeth achos: Tyfu cnydau bresych y gaeaf ar fferm laeth

Fel rhan o’n prosiect treialon cnydau, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr lleol, gan gynnig cyngor, cyllid sbarduno, cysylltiadau â marchnadoedd lleol, ac offer i gefnogi cynhyrchu garddwriaeth yn lleol. Un ffermwr sy’n ymwneud â’r prosiect yw Menna Williams...

Galwad Agored i Artistiaid

Mae Tir Canol yn cynnig cyfle i artistiaid ddatblygu a/neu gyflawni gwaith sy’n ceisio (ail)gysylltu cymunedau â’r tirweddau yn ein hardal ni o Ganolbarth Cymru. Rydym yn chwilio am artistiaid newydd a sefydledig o unrhyw ddisgyblaeth sydd â chysylltiad â’r dirwedd...

Atal tanau gwyllt Cwm Rheidol

Mae Tir Canol yn gweithio mewn partneriaeth â Choed Cadw, sy’n rheoli coetir Allt Boeth ym mhen uchaf Cwm Rheidol, er mwyn cefnogi’r camau cyntaf wrth ddatblygu cynllun argyfwng Cymuned Cwm Rheidol. Mae’r syniad o gael cynllun wedi dod gan y gymuned, sydd wedi gweld...

Lansio Llawlyfr Newid Llanw

Lansio Newid Llanw - Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth. Credyd llun: Dan Jones Ddydd Gwener 27 Chwefror, fe wnaethom lansio Newid Llanw, llawlyfr ar addasiadau arfordirol sydd wedi cael ei lunio ar y cyd â chymunedau Dyfi. Nod y llawlyfr yw darparu’r adnoddau a’r...

Cyfle – Artist

Contract – Artist Ymgysylltu â’r Gymuned Artist Ymarfer sy'n Ymgysylltu'n Gymdeithasol ar gyfer prosiect cyd-ddylunio cymunedol Dyfi ynghylch addasu arfordirol "Mae celf yn adrodd straeon pwerus. Gall artistiaid adrodd straeon cymunedau y mae newid yn yr hinsawdd yn...

Cyfle

Rydym yn chwilio am ddylunydd… BRIFF DYLUNIO: Dogfen Cerrig Camu - Cynllun Gweithredu ar Reoli Llifogydd Cefndir: “Mae Grŵp Llifogydd Cymunedol Talybont (TCFG) wedi bod yn gweithio am y dri flynedd ddiwethaf ar brosiect i gasglu tystiolaeth o sut mae dŵr yn ymddwyn yn...