Cwestiynnau

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Sut fydd y prosiect o fudd i fywyd gwyllt yn yr ardal leol?

Tir amaeth yw rhan fwyaf o dir yr ardal. Drwy weithio gyda ffermwyr i’w helpu i ddiogelu ac adfer byd natur, ochr yn ochr â’u busnes ffermio, rydym yn credu mai dyma sut mae rhoi’r cyfle gorau i helpu adfywio bywyd gwyllt. Drwy weithio efo’n gilydd ar raddfa tirwedd gallwn cael yr fwyaf o wahaniaeth i natur. 

Gallai’r prosiect fod o fudd i boblogaethau o fywyd gwyllt brodorol fel bele’r coed, ystlumod pedol a chimychiaid, gydag adfer ac ehangu cynefinoedd sy’n bwysig yn fyd-eang fel prysgwydd montane, cors flanced, glaswelltiroedd, morfa heli arfordirol a riffiau byw. 

Lle mae'r prosiect wedi ei leoli?
Rydyn ni’n gweithio yn yr ardal rhwng yr afonydd Dyfi yn y gogledd ac Afon Rheidol yn y de, draw i Llanidloes yn y dwyrain efo mynyddoedd Pumlumon fel ei’n pwynt uchaf
Pwy oedd yn rhan o ddylunio’r prosiect?

Yn ystod y cyfnod datblygu (Mehefin 2020 – Mai 2022), fe wnaeth cannoedd o bobl gymryd rhan yn dylunio’r prosiect. Yn ystod y cyfnod hwn ffurfiwyd Grŵp Cyswllt sy’n cynnwys sefydliadau ac unigolion lleol i lywio’r broses, trafod a phenderfynu ar themâu a chyfeiriad y prosiect.

Gallwch ddarllen mwy am bwy a sut roedd pobl yn rhan o ddylunio’r prosiect yma.
Pwy yw partneriaid y prosiect nawr?

Ar hyn o bryd mae’r partneriaeth yn cynnwys y sefydliadau yma:

  • RSPB Cymru
  • Tir Coed
  • FWAG Cymru
  • Bwyd Dros Ben Aber
  • Ecodyfi
  • Menter Mynyddoedd Cambrian
  • ACA Pen Llŷn a’r Sarnau
  • Coed Cadw
  • Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn

Os oes gennych ddiddordeb ymuno efo’r bartneriaeth cysylltwch â ni.

Pwy sy'n ariannu'r prosiect?

Ar hyn o bryd mae’r prosiect yn chwilio am gyllideb. Yn y cyfamser mae RSPB Cymru a Choed Cadw yn ariannu’r prif aelodau staff.

Tan Mai 2022 roedd y prosiect yn cael ei ariannu gan ‘Endangered Landscapes Programme’, pan oedd yn cael ei adnabod fel O’r Mynydd i’r Môr.

Beth yw cyd-gynhyrchu?
Mae cyd-ddylunio yn golygu dylunio gyda phobl, yn hytrach nag ar eu cyfer nhw. Mae cyd-ddylunio yn fudiad cymdeithasol, meddylfryd a gwerthoedd, a set o offer i’w defnyddio i ddylunio. Mae cyd-ddylunio yn mynd gam ymhellach na dim ond cynnwys pobl mewn project, fel ymgynghoriad neu ymgysylltiad cymunedol. Mae gan Gymru enghreifftiau gwych o gyd-ddylunio y gallwch ddysgu mwy amdanynt ar wefan Rhwydwaith Cyd-Gynhyrchu Cymru.
Pam wnaeth yr prosiect defnyddio cyd-ddylunio?

Roedd defnyddio dulliau, meddylfryd ac offer cyd-ddylunio yn brofiad newydd i’r mwyafrif helaeth o’r bobl oedd yn rhan o’r project. Mae diddordeb cynnyddol mewn rhoi mwy o rym yn ôl i ddinasyddion wrth ddatrys heriau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd cymhleth, ond dydy hyn ddim yn ffordd gyffredin iawn o weithio eto yn y Deyrnas Unedig. Mae ychydig bach yn fwy cyffredin mewn rhai sectorau (fel amgylchedd adeiledig, iechyd a gofal cymdeithasol neu waith gyda phobl ifanc) ond nid dyna yw’r norm ar gyfer projectau cadwraeth ar raddfa tirwedd.

Roeddem am defnyddio cyd-ddylunio i ddod â phobl at wraidd y prosiect, meithrin perthnasoedd cryf, rhannu pŵer ac archwilio atebion gyda’n gilydd i’r heriau y mae natur yn eu hwynebu.

Gallwch ddarllen mwy am y myfyrdodau a’r gwersi a ddysgwyd trwy ddefnyddio cyd-ddylunio yn yr ymchwil a gomisiynwyd gennym i hyn yma.

A yw Rewilding Britain yn rhan o’r prosiect?
Na, nid yw yr sefydliad Rewildling Britain wedi fod yn rhan o’r prosiect yma ers i nhw gadael partneriaeth O’r Mynydd i’r Mor yn Hydref 2019. Gallwch ddarllen mwy am y gwersi o’r cyfnod yma drwy ddarllen y Gwerthusiad Annibynnol yma
Beth ydych chi’n meddwl gyda’r term ‘partner sy’n cynnal y prosiect’?

Mae Tir Canol yn bartneriaeth o nifer o sefydliadau ar hyn o bryd. Nid sefydliad ar liwt ei hun ydi Tir Canol. Yn y dyfodol, gallai ddod yn sefydliad ei hun neu gallai uno gyda sefydliad sydd eisoes yn bodoli’n lleol.

Hyd nes y bydd hyn yn cael ei ddatblygu ymhellach mae unrhyw staff neu gyllid yn cael eu ‘cynnal’ gan un o sefydliadau’r bartneriaeth. Ar hyn o bryd mae RSPB Cymru yn cynnal staff craidd y prosiect, tra bod nifer o bartneriaid eraill yn cynnal ceisiadau am arian ar ran y bartneriaeth. Mae hyn yn cynnwys cefnogi wrth baratoi ceisiadau, cynnal yr elfennau ariannol a darparu’r strwythurau sefydliadol sydd eu hangen ar gyfer ceisiadau am gyllid.

Beth yw Biosffer Dyfi?

Ardal lle mae pobl leol yn gweithio gyda bioamrywiaeth a’i defnydd cynaliadwy yw Gwarchodfa Fiosffer.

Mae gwarchodfeydd biosffer yn ardaloedd ecosystemau tir a môr neu’n gyfuniad o’r ddau sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol o fewn fframwaith rhaglen Dyn a’r Biosffer (MAB) UNESCO. Dynodir ardaloedd o’r fath gan UNESCO (Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig).

Maent yn cael eu henwebu gan lywodraethau cenedlaethol a rhaid iddynt gyrraedd tri nod:

  • Cadwraeth – yn gwarchod bywyd gwyllt, cynefinoedd a’r amgylchedd.
  • Datblygu – yn hybu economi a chymuned gynaliadwy
  • Addysg – yn cefnogi ymchwil, yn monitro ac yn adeiladu rhwydweithiau byd-eang i rannu a dysgu.

Mae’r Biosffer Dyfi’n yn gweithio i’w cael ei gydnabod a’i barchu yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol am amrywiaeth ei harddwch naturiol, ei dreftadaeth a’i fywyd gwyllt, ac am ymdrechion ei bobl i wneud cyfraniad cadarnhaol i fyd mwy cynaliadwy.

Mae prosiect Tir Canol yn gweithio’n agos gyda phartneriaeth Biosffer Dyfi wrth i fwyafrif mawr o dir a môr Tir Canol ddod o fewn ardal Gwarchodfa Biosffer Dyfi.

Pam fod y prosiect yma wedi ei enwi yn Tir Canol?

Mae ein henw wedi cael ei ddatblygu gyda’r gymuned ac yn adlewyrchu dau elfen bwysig: 

  1. Ein hardal leol, neu ein cynefin! Rydym ni’n canolbwyntio ein trafodaethau a chynlluniau ar ardal canolbarth Cymru, rhwng yr afonydd Dyfi a Rheidol, felly’r Tir Canol. 
  2. Mae’r syniad o gwrdd yn y canol (middle ground) yn bwysig iawn i ni. Rydym yn angerddol am gydweithio a pharchu ein hystod o brofiadau ac arbenigedd. Credwn fod y syniad o ddal y tir canol yn bwysig iawn

Mae’r enw hyn wedi cae ei ddatblygu gyda pobl ddaru gymryd rhan yn y broses cyd-gynhyrchu yn 2020-2022. Rydym yn credu ei fod yn adlewyrchu ethos ein gweledigaeth a Glasbrint.

Sut fydd y prosiect yn ymateb i gynlluniau amgylchedd amaeth newydd Llywodraeth Cymru?

Tra bod ni yn datblygu’r prosiect byddwn yn cadw llygad ar broses cyd-ddylunio rheoli tir Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y prosiect hwn yn gyflenwol i’r cynlluniau terfynol ar ôl Brexit. Ni fydd y prosiect yn disodli’r cynllun hwn, ond byddwn yn ceisio sicrhau bod ein gwaith yn cyd-fynd ac yn ymateb i’r cynllun hwn.