
Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi Dorry Spikes fel artist preswyl Tir Canol ar gyfer hydref/gaeaf 2026. Astudiodd Dory Ddarlunio ac Animeiddio ym Mhrifysgol Kingston ac aeth i’r ‘Flwyddyn Arlunio’ yn yr Ysgol Arlunio Frenhinol. Mae peintio a thynnu lluniau o brofiadau bywyd wrth galon ei hymarfer. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos yn Y Lle Celf, Lido Stores ac yn yr Academi Frenhinol.
Darllenwch beth sydd gan Dorry i’w ddweud am yr hyn y mae hi’n gobeithio ei gyflawni drwy ‘Crwydryn’.
Yr hydref hwn, rwy’n edrych ymlaen at ddysgu o dirwedd Tir Canol. Byddaf yn creu cyfnod preswyl estynedig yn cerdded ac yn tynnu lluniau yn yr ucheldiroedd rhwng dyffryn Dyfi a dyffryn Rheidol. Byddaf yn defnyddio fy mhrofiad presennol o fod yn artist teithiol, ac yn adleisio ffigurau hanesyddol ‘crwydriaid’ (gweithwyr fferm tymhorol) ac artistiaid a oedd yn teithio ledled Cymru i wneud eu crefft. Byddaf yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gynllunio’r llwybrau cerdded ac arlunio, a byddaf yn ceisio cynllunio fy nheithiau cerdded â digwyddiadau cymdeithasol cymunedol lle bo hynny’n bosibl. Byddaf yn cario deunyddiau arlunio ychwanegol, os bydd unrhyw un eisiau cymryd eiliad i dynnu llun ochr yn ochr â mi.

Rwy’n ymchwilio archifau a mapiau cyn creu Pererindodau Tynnu Llun o ddarganfyddiadau. Rydw i eisiau rhannu a dathlu’r ymdeimlad o heddwch a chysylltiad rwy’n ei gael pan fyddaf yn rhoi fy holl sylw i rywbeth, drwy stopio a thynnu llun o le. Wrth wneud hynny, mae gen i ddiddordeb mewn tynnu sylw at bethau nad ydynt bob amser yn ‘amlwg’ – y gweladwy anweledig. Rwy’n gobeithio y bydd y gwaith rwy’n ei wneud yng nghymunedau Tir Canol yn helpu i feithrin cysylltiadau â’r dirwedd drwy archwilio sut mae haenau diwylliannol cyfoes ac anniriaethol y lleoedd hyn yn cwrdd ac yn cyd-blethu.

Fel Cymraes y genhedlaeth gyntaf, mae teimlad o gysylltiad ansicr â’m man geni a’m hiaith yn fy nghymell i chwilio am gysylltiadau â haenau o ystyr mewn tirweddau. Cefais fy magu yn y wlad (yn ymwneud yn ymarferol â fforio a gwaith tir), ac oherwydd hynny rwyf wedi datblygu gwybodaeth ddofn am yr ardal i’r de o’r Ystwyth. Mae’r pentref/gweithfa/dysgu o’r gegin hwn yn cwrdd â chariad at gerdded, archwilio a thynnu lluniau, ac yn dylanwadu ar fy ymchwil personol i’r pethau sy’n fy nghyfareddu. Rwy’n cario’r wybodaeth hon am y tir i’r byd ehangach ac mae’n gwneud pob profiad yn fwy disglair a gwerthfawr.

Mae gen i ddiddordeb mewn archwilio nifer o themâu gwahanol yn ardal Tir Canol- a hoffwn ddod o hyd i groesfannau a thynnu llun ohonynt: yr hen bontydd cerrig, yr hen lefydd yn yr afonydd lle’r oedd cerrig camu yn arfer bod, y ffynhonnau arwyddocaol, a sut mae enwau lleoedd yn adlewyrchu eu natur. Hoffwn ddysgu mwy am ffermydd yr ucheldir sydd bellach yn wag fel Syfydrin; a sut y gallai cerdded a thynnu lluniau ddathlu awyr dywyll ucheldiroedd Tir Canol. Mae gen i ddiddordeb yn yr hen lwybrau mynachod/pererinion/masnach a arweiniodd at ein porthladdoedd môr a’n ffynhonnau sanctaidd (Llancynfelin/Llandre ac ati). Mae gen i ddiddordeb hefyd yn hanes yr adfywiadau a lle gallai cynulliadau mawr i addoli yn yr awyr agored fod wedi cael eu cynnal.

Rwy’n chwilio am ymdeimlad o gysylltiad dyfnach drwy daflu goleuni ar bethau nad ydynt bob amser yn ‘amlwg’. Yn ddiweddar, es ati i greu cyfres o weithiau ar ddefnyddio cwarts fel carreg apotropäig yng Ngheredigion. Yn ogystal ag edrych ar archifau yn y Llyfrgell Genedlaethol a hen fapiau, roedd y gymuned yn cael ei chynnwys yn anffurfiol drwy fy ngwaith yn y dirwedd ac wrth i mi siarad am yr hyn roeddwn i’n ei wneud gydag unrhyw un a oedd yn mynd heibio. Wrth i’m prosiect fynd rhagddo, byddwn yn gwerthfawrogi’n fawr unrhyw wybodaeth leol a allai ychwanegu at gyfoeth a chwmpas y gwaith. Weithiau, rwy’n cynnal digwyddiadau hunan-arweiniol i gwrdd i dynnu lluniau mewn lleoliadau gwahanol (‘Dere Ddarlunio’) a byddwn yn awyddus i wneud rhannau o deithiau cerdded gyda phobl eraill i rannu gwybodaeth ac ychwanegu haenau o ddealltwriaeth at y dirwedd rydyn ni’n ei chroesi.
