
Mae Biosffer Dyfi a rhanbarth ehangach Tir Canol yn cynnal amrywiaeth o gynefinoedd pwysig a rhywogaethau prin; dyma’r sail ar gyfer dewis safleoedd dynodedig, gwarchodfeydd natur a phrosiectau ehangach ar raddfa’r dirwedd sy’n bodoli yn y rhanbarth. Mae coetiroedd yn un o’r prif gynefinoedd yn ardal Dyfi a’r cyffiniau, gan gynnwys safleoedd o hen goetir lled-naturiol sydd wedi goroesi, ardaloedd gwasgaredig o borfa goediog, prysgwydd gwlyb o helyg a bedw, safleoedd ffridd ucheldir amrywiol a blociau mawr o blanhigfeydd ungnwd llai dymunol – pob un ohonynt wedi’u lleoli mewn tirwedd fforest law a lunir gan y glawiad trwm trwy gydol y flwyddyn a hinsawdd dymherus gorllewin Cymru.
Er bod llawer o wybodaeth ar gael am goedwigoedd a choetiroedd ardal y Dyfi, nid oes un lleoliad sy’n dwyn y wybodaeth hon ynghyd i ddeall cyflwr y coetiroedd ar draws yr ardal ar raddfa’r dirwedd; at hynny, mae nifer o fylchau sylweddol mewn gwybodaeth sy’n atal targedu effeithiol ar gyfer gwaith cadwraeth yng nghoetiroedd yr ardal, megis gwybodaeth am gyflwr ecolegol y coetiroedd, cysylltedd y coetiroedd presennol, a sut mae rhywogaethau coetir allweddol wedi’u dosbarthu ar draws yr ardal.
Mae partneriaeth Tir Canol yn anelu at ddwyn y wybodaeth hon ynghyd, a’r contract hwn – sy’n seiliedig ar waith desg – yw’r cam cyntaf yn y broses: bydd yn sail i ddatblygu Cynllun Adnoddau Coetir ar gyfer yr ardal gyfan, ar y cyd â chyrff statudol, tirfeddianwyr, ffermwyr a sefydliadau anllywodraethol.
darllen y crynodeb llawn yma.
Amser cau 3 Tachwedd