Sut daeth Llif i fodolaeth?
Yn 2012, torrodd afonydd Ceulan a Leri eu glannau ym mhentref Tal-y-bont ger Aberystwyth yng Nghanolbarth Cymru. Cafodd hyn effaith drychinebus. Effeithiodd y llifogydd ar 27 o gartrefi a busnesau.
Datblygwyd prosiect Llif mewn partneriaeth rhwng Grŵp Llifogydd Cymunedol Tal-y-bont (TCFG) a Tir Canol i archwilio gweithgareddau rheoli llifogydd yn naturiol yn y ddau ddalgylch afon, ac atebion posibl eraill i atal llifogydd dinistriol pellach.
Mae newid yn yr hinsawdd yn cynyddu dwyster y glaw, a gallai hyn achosi i dir fferm yn nalgylchoedd afonydd Ceulan a Leri gael ei lethu gan ddŵr yn amlach. Mae angen i gymuned Tal-y-bont gynllunio er mwyn cyfyngu ar y difrod os bydd rhagor o lifogydd.
Beth yw cyd-ddylunio a sut gwnaeth o weithio?

Mae cyd-ddylunio yn fethodoleg gydweithredol lle mae ymchwilwyr yn gweithio fel partneriaid cyfartal gyda chyfranogwyr, rhanddeiliaid neu aelodau o’r gymuned drwy gydol y broses ymchwil. Mae’n broses aflinol sy’n blaenoriaethu mewnbwn ar y cyd gan amrywiaeth o gyfranogwyr er mwyn cryfhau lleisiau nad ydynt yn aml yn cael eu clywed. Mae’r dull hwn yn blaenoriaethu perchnogaeth a gwneud penderfyniadau ar y cyd, mae’n ailadroddol ac yn ymatebol, ac mae’n rhoi pwyslais ar ganlyniadau ymarferol.
Gwnaethom gynnal 4 gweithdy cyd-ddylunio dros gyfnod o chwe mis, gyda chymysgedd o bobl leol a thirfeddianwyr, er mwyn deall yr amrywiaeth o safbwyntiau, cyfleoedd a diddordebau yn yr ardal. Fe wnaethom hefyd gynnal neu fynychu 4 digwyddiad ymgysylltu â’r gymuned ehangach i gynnwys y gymuned ehangach wrth feddwl am y problemau a’r atebion posibl sy’n gysylltiedig â llifogydd yn y pentref. Ariannwyd arolwg gwyddonol o ddalgylch afon Leri er mwyn ymweld â’r dalgylch yn bersonol a deall safbwyntiau mwy technegol ar beth allai prif achosion y llifogydd fod a pha newidiadau y byddai disgwyl iddynt wneud y gwahaniaeth mwyaf.
Beth yw prif ganfyddiadau’r adroddiad?
- Er mwyn lleihau effaith llifogydd yn y dyfodol, dylid cynyddu’r capasiti ar gyfer llif dŵr o dan bont ffordd yr A487.
- Gallai plannu coed ac adfer tirweddau naturiol helpu dros amser.
- Mae’r tebygolrwydd o lifogydd mawr fel yr un yn 2012 yn cynyddu o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.