Cyfnod Preswyl Coetir

Mae Tir Canol a Coed Cadw yn cynnig cyfnod preswyl i artist, ar y thema coed a/neu goetiroedd. Dyma gyfle i artist ddatblygu a/neu gyflawni gwaith sy’n ceisio (ail)gysylltu cymunedau â’r tirweddau yn ein hardal ni o Ganolbarth Cymru. Rydym yn chwilio am artistiaid newydd a sefydledig sydd â chysylltiad â’r ardal benodol hon y mae eu gwaith yn ymwneud â choed a choetiroedd. Mae’r cyfnod preswyl yn agored i artistiaid o unrhyw ddisgyblaeth sy’n gweithio mewn ffordd sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol. Dim ond un cyfle sydd ar gael ar gyfer y cyfle penodol hwn.  

Ardal Gyflawni’r Cyfnod Preswyl Coetir 

Mae’r cyfnod preswyl hwn yn digwydd yn yr ardaloedd cyfun fel y nodir uchod – gweler y map isod. Mae’r cymunedau’n cynnwys Machynlleth, Tal-y-bont, y Borth, Aberystwyth, Llanidloes a Chwm Rheidol ond gall gynnwys mwy na hyn.

Beth rydym ni’n ei gynnig 

Bydd disgwyl i’r artistiaid a gaiff eu dewis dreulio cyfanswm o fis yn gweithio yn yr ardal ddynodedig rhwng mis Rhagfyr 2026 a mis Mawrth 2027. Gellir gwneud hyn mewn un bloc, neu ei ledaenu drwy gydol y cyfnod.

Byddwch yn cael eich mentora gan yr artist lleol a rheolwr rhaglen Tir Canol, Alice Briggs.

Bydd ffi artistiaid o £3000, a fydd yn cael ei dalu mewn 3 rhandaliad, 40% fel taliad cychwynnol, 40% hanner ffordd drwodd, ac 20% ar ôl cwblhau’r cyfnod preswyl.

Byddwch yn cael cymorth i ddarparu gweithgareddau a digwyddiadau ymgysylltu gan swyddog ymgysylltu Tir Canol Rosie Slay a swyddog ymgysylltu a chyfathrebu Coed Cadw, Kirsten Manley. Mae gennym hefyd rwydwaith helaeth o arbenigedd drwy ein partneriaid a’n tîm, y gellir manteisio arno.

Mae cyllid ychwanegol ar gael a fydd yn cefnogi’r gwaith o ddarparu digwyddiadau a deunyddiau cyfathrebu.

Mae awydd i drefnu arddangosfa/arddangosfeydd cyhoeddus yn 2027-2029, gyda’r gwaith yn cael ei ddatblygu drwy’r cyfnodau preswyl hyn. Rydym yn disgwyl i’n hartistiaid weithio gyda ni i ddod â’u gwaith i fformat y gellir ei arddangos, am ffi ychwanegol os bydd hyn yn digwydd.

Beth rydym ni’n gofyn amdano 

Prif nod y cyfnod preswyl yw ceisio ailgysylltu cymunedau â choed a choetiroedd. Rydym yn disgwyl gweld rhywfaint o ymgysylltu amlwg â’r gymuned. Gallai hyn ddigwydd drwy sgyrsiau, gweithdai, digwyddiadau, neu unrhyw ddull arall.

Pwy ydych chi? 

Mae’r cyfle’n agored i artistiaid o unrhyw ddisgyblaeth, e.e. celf weledol, celf perfformio neu gelf gymunedol. Mae hefyd yn agored i unrhyw gam mewn gyrfa. Nid yw sgiliau Cymraeg yn ofynnol, ond byddant yn fanteisiol i’ch galluogi i weithio gyda chymunedau Cymraeg eu hiaith. 

Rhaid i’r cyfnod preswyl ymwneud â choed a choetiroedd mewn rhyw ffordd. Rhaid i artistiaid ddeall a pharchu bywyd gwyllt, ecoleg a threftadaeth yr ardal. Mae arnom eisiau gweld sut bydd y cyfle hwn yn datblygu eich ymarfer. 

Yn eich ffurflenni cais, byddwn yn chwilio am dystiolaeth o’r canlynol:

Cysylltiad â lle

Mae angen i artistiaid fod â chysylltiad amlwg â thirwedd Tir Canol. Gall hyn fod oherwydd eu bod yn byw yma, oherwydd bod ganddynt gysylltiad teuluol â’r ardal, neu fod eu gwaith neu eu hymarfer wedi’i wreiddio’n gryf yn y dirwedd hon.

Ymgysylltu’n gymdeithasol

Rydym yn chwilio am artistiaid sydd ag ymarfer sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol.

Gwaith sy’n ymwneud â choed a choetiroedd

Rydym yn chwilio am gysylltiad â choed a choetiroedd. Gallai’r cysylltiad hwnnw fod yn llythrennol, yn drosiadol, yn faterol neu fel arall, ond dylech egluro’r cysylltiad yn glir yn eich ffurflen gais.

Sut mae ymgeisio 

Gallwch ddod o hyd i’r brîf llawn yma

I ymgeisio, cyflwynwch ffurflen gais, gyda CV neu bortffolio a hyd at 5 delwedd, fideo, recordiad, i’w rhannu drwy ffeiliau ZIP, ffolderi a rennir yn Google Drive, Dropbox neu Wetransfer, erbyn 9am 26 Hydref 2026.  

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn ac a yw’n addas i chi, cysylltwch â Rosie Slay, swyddog ymgysylltu, ar rosie@tircanol.cymru 

Dorry Spikes – Crwydryn

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi Dorry Spikes fel artist preswyl Tir Canol ar gyfer hydref/gaeaf 2026. Astudiodd Dory Ddarlunio ac Animeiddio ym Mhrifysgol Kingston ac aeth i’r ‘Flwyddyn Arlunio’ yn yr Ysgol Arlunio Frenhinol. Mae peintio a thynnu lluniau o brofiadau...

Sut gallwn ni leihau risg ac effaith llifogydd yn Nhal-y-bont? Adroddiad Llif

Sut daeth Llif i fodolaeth? Yn 2012, torrodd afonydd Ceulan a Leri eu glannau ym mhentref Tal-y-bont ger Aberystwyth yng Nghanolbarth Cymru. Cafodd hyn effaith drychinebus. Effeithiodd y llifogydd ar 27 o gartrefi a busnesau. Datblygwyd prosiect Llif mewn partneriaeth...

Tendr ar gyfer Gwerthuswr rhaglen Cynnal

Mae Tir Canol yn chwilio am ymgynghorydd i werthuso prosiect (Cynnal) sy'n rhan o raglen ehangach o waith. Gallwch ddarllen mwy am gefndir Tir Canol yma. Bydd y gwerthusiad yn cyfrannu at ein myfyrio ar ddatblygiad parhaus rhaglen Tir Canol, gan ein galluogi i...

Astudiaeth achos: Tyfu cnydau bresych y gaeaf ar fferm laeth

Fel rhan o’n prosiect treialon cnydau, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr lleol, gan gynnig cyngor, cyllid sbarduno, cysylltiadau â marchnadoedd lleol, ac offer i gefnogi cynhyrchu garddwriaeth yn lleol. Un ffermwr sy’n ymwneud â’r prosiect yw Menna Williams...

Galwad Agored i Artistiaid

Mae Tir Canol yn cynnig cyfle i artistiaid ddatblygu a/neu gyflawni gwaith sy’n ceisio (ail)gysylltu cymunedau â’r tirweddau yn ein hardal ni o Ganolbarth Cymru. Rydym yn chwilio am artistiaid newydd a sefydledig o unrhyw ddisgyblaeth sydd â chysylltiad â’r dirwedd...

Atal tanau gwyllt Cwm Rheidol

Mae Tir Canol yn gweithio mewn partneriaeth â Choed Cadw, sy’n rheoli coetir Allt Boeth ym mhen uchaf Cwm Rheidol, er mwyn cefnogi’r camau cyntaf wrth ddatblygu cynllun argyfwng Cymuned Cwm Rheidol. Mae’r syniad o gael cynllun wedi dod gan y gymuned, sydd wedi gweld...

Beth mae ein Swyddog Natur yn ei wneud?

Mae Ben Porter, Swyddog Natur Tir Canol, yn gweithio gyda pherchnogion tir a ffermwyr, gan gynnig arolygon bioamrywiaeth o’u tir, ac unrhyw goetir arno, i sefydlu eu gwerth a’u cyflwr ecolegol. Wedi hynny, byddwn yn cynnig cyllid ymyrraeth i’r safleoedd hynny lle mae...

Lansio Llawlyfr Newid Llanw

Lansio Newid Llanw - Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth. Credyd llun: Dan Jones Ddydd Gwener 27 Chwefror, fe wnaethom lansio Newid Llanw, llawlyfr ar addasiadau arfordirol sydd wedi cael ei lunio ar y cyd â chymunedau Dyfi. Nod y llawlyfr yw darparu’r adnoddau a’r...

Cyfle – Artist

Contract – Artist Ymgysylltu â’r Gymuned Artist Ymarfer sy'n Ymgysylltu'n Gymdeithasol ar gyfer prosiect cyd-ddylunio cymunedol Dyfi ynghylch addasu arfordirol "Mae celf yn adrodd straeon pwerus. Gall artistiaid adrodd straeon cymunedau y mae newid yn yr hinsawdd yn...

Cyfle

Rydym yn chwilio am ddylunydd… BRIFF DYLUNIO: Dogfen Cerrig Camu - Cynllun Gweithredu ar Reoli Llifogydd Cefndir: “Mae Grŵp Llifogydd Cymunedol Talybont (TCFG) wedi bod yn gweithio am y dri flynedd ddiwethaf ar brosiect i gasglu tystiolaeth o sut mae dŵr yn ymddwyn yn...