LANSIO PROSIECT TIR CANOL ‘CYNNAL’

Mae’n bleser gan Tir Canol gyhoeddi ein bod wedi bod yn llwyddiannus gyda chais cyllid gan Sefydliad Esmée Fairbairn i weithio ar gyfres o brosiectau cymunedol wedi’u cyd-ddylunio dros y 4 blynedd nesaf. Mae’r prosiectau hyn yn cwmpasu pedair prif elfen: 

1) Cyd-ddylunio cynllun gweithredu rheoli llifogydd naturiol ar gyfer dalgylch Leri, mewn partneriaeth â Grŵp Llifogydd Cymunedol Talybont ac eraill. Mae’r grŵp llifogydd lleol hwn eisoes wedi bod yn gweithio ar Brosiect Gwydnwch Llifogydd am y ddwy flynedd ddiwethaf yn nalgylch Leri, gan gynnwys plannu dros 20,000 o goed gyda thirfeddianwyr lleol. Bydd Tir Canol yn gweithio’n agos gyda’r grŵp i uwchraddio’r gwaith hwn, gan gynnal prosiect cyd-ddylunio blwyddyn i ddatblygu cynllun hirdymor a dechrau cyflawni elfennau allweddol o hyn yn y blynyddoedd dilynol.

2) Parhau i ddatblygu’r prosiect peilot Treialon Graddfa Maes ar ôl ei lwyddiant cychwynnol, gan weithio’n agos gyda ffermwyr a thyfwyr lleol i’w cefnogi i dreialu cnydau neu gynhyrchion newydd mewn ffordd amaeth-ecolegol 

3) Gwreiddio’r celfyddydau fel arf ymgysylltu a chydweithio allweddol ar draws ardal prosiect Tir Canol. Mae’r celfyddydau yn chwarae rhan allweddol yn ein huchelgais i gysylltu pobl yn ddyfnach â’u tirwedd leol, â’r byd naturiol ac â’n treftadaeth ddiwylliannol. Trwy gyfres o weithgareddau, bydd yr elfen hon o’r prosiect yn meithrin datblygiad nifer o fentrau artistig cyffrous yn ymwneud ag artistiaid lleol, crefftau traddodiadol, rhaglenni cyfnewid a sioeau yn yr Eisteddfodau

4) Treialon adfer cynefinoedd tirfeddianwyr a ffermwyr. Agwedd allweddol a godwyd gan dirfeddianwyr yn ystod cyfnod Cyd-ddylunio Tir Canol oedd cael mwy o gefnogaeth i ddeall ffyrdd o reoli eu tir mewn ffordd fwy ystyriol o natur. Bydd yr elfen hon o’r prosiect yn darparu cyllid i dreialu amrywiaeth o wahanol ddulliau sy’n meithrin mwy o fioamrywiaeth ochr yn ochr â systemau ffermio’n lleol, gyda’r bwriad o ddeall sut y gellir uwchraddio ac ariannu dulliau o’r fath yn y tymor hwy. 

Gyda’i gilydd, bydd y pedair elfen ddatblygol hyn o waith Tir Canol yn ffurfio’r prosiect ‘Cynnal’. Rydym yn gyffrous iawn i barhau i weithio gydag RSPB Cymru, Coed Cadw a chyda’n partneriaeth gynyddol i ddechrau cyflawni’r prosiectau hyn, gyda chefnogaeth cyllid hael gan Sefydliad Esmée Fairbairn. Gobeithiwn y bydd y cyllid hwn yn gam cadarn ymlaen i Tir Canol wrth i ni symud o’n cam datblygu craidd tuag at gyflawni’r holl syniadau sydd wedi’u bwydo i mewn i Lasbrint y prosiect dros y cyfnod Cydgynllunio craidd. 

Ychydig am ein cyllidwyr newydd.
Nod Sefydliad Esmée Fairbairn yw gwella ein byd naturiol, sicrhau dyfodol tecach a chryfhau’r cysylltiadau mewn cymunedau yn y DU. Yn unol â Glasbrint Tir Canol, mae Esmée yn datgloi newid trwy gyfrannu popeth o fewn ein gallu ochr yn ochr â phobl a sefydliadau sydd â syniadau gwych sy’n rhannu ein nodau. 

Cyfnod Preswyl Coetir

Mae Tir Canol a Coed Cadw yn cynnig cyfnod preswyl i artist, ar y thema coed a/neu goetiroedd. Dyma gyfle i artist ddatblygu a/neu gyflawni gwaith sy’n ceisio (ail)gysylltu cymunedau â’r tirweddau yn ein hardal ni o Ganolbarth Cymru. Rydym yn chwilio am artistiaid...

Dorry Spikes – Crwydryn

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi Dorry Spikes fel artist preswyl Tir Canol ar gyfer hydref/gaeaf 2026. Astudiodd Dory Ddarlunio ac Animeiddio ym Mhrifysgol Kingston ac aeth i’r ‘Flwyddyn Arlunio’ yn yr Ysgol Arlunio Frenhinol. Mae peintio a thynnu lluniau o brofiadau...

Sut gallwn ni leihau risg ac effaith llifogydd yn Nhal-y-bont? Adroddiad Llif

Sut daeth Llif i fodolaeth? Yn 2012, torrodd afonydd Ceulan a Leri eu glannau ym mhentref Tal-y-bont ger Aberystwyth yng Nghanolbarth Cymru. Cafodd hyn effaith drychinebus. Effeithiodd y llifogydd ar 27 o gartrefi a busnesau. Datblygwyd prosiect Llif mewn partneriaeth...

Tendr ar gyfer Gwerthuswr rhaglen Cynnal

Mae Tir Canol yn chwilio am ymgynghorydd i werthuso prosiect (Cynnal) sy'n rhan o raglen ehangach o waith. Gallwch ddarllen mwy am gefndir Tir Canol yma. Bydd y gwerthusiad yn cyfrannu at ein myfyrio ar ddatblygiad parhaus rhaglen Tir Canol, gan ein galluogi i...

Astudiaeth achos: Tyfu cnydau bresych y gaeaf ar fferm laeth

Fel rhan o’n prosiect treialon cnydau, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr lleol, gan gynnig cyngor, cyllid sbarduno, cysylltiadau â marchnadoedd lleol, ac offer i gefnogi cynhyrchu garddwriaeth yn lleol. Un ffermwr sy’n ymwneud â’r prosiect yw Menna Williams...

Galwad Agored i Artistiaid

Mae Tir Canol yn cynnig cyfle i artistiaid ddatblygu a/neu gyflawni gwaith sy’n ceisio (ail)gysylltu cymunedau â’r tirweddau yn ein hardal ni o Ganolbarth Cymru. Rydym yn chwilio am artistiaid newydd a sefydledig o unrhyw ddisgyblaeth sydd â chysylltiad â’r dirwedd...

Atal tanau gwyllt Cwm Rheidol

Mae Tir Canol yn gweithio mewn partneriaeth â Choed Cadw, sy’n rheoli coetir Allt Boeth ym mhen uchaf Cwm Rheidol, er mwyn cefnogi’r camau cyntaf wrth ddatblygu cynllun argyfwng Cymuned Cwm Rheidol. Mae’r syniad o gael cynllun wedi dod gan y gymuned, sydd wedi gweld...

Beth mae ein Swyddog Natur yn ei wneud?

Mae Ben Porter, Swyddog Natur Tir Canol, yn gweithio gyda pherchnogion tir a ffermwyr, gan gynnig arolygon bioamrywiaeth o’u tir, ac unrhyw goetir arno, i sefydlu eu gwerth a’u cyflwr ecolegol. Wedi hynny, byddwn yn cynnig cyllid ymyrraeth i’r safleoedd hynny lle mae...

Lansio Llawlyfr Newid Llanw

Lansio Newid Llanw - Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth. Credyd llun: Dan Jones Ddydd Gwener 27 Chwefror, fe wnaethom lansio Newid Llanw, llawlyfr ar addasiadau arfordirol sydd wedi cael ei lunio ar y cyd â chymunedau Dyfi. Nod y llawlyfr yw darparu’r adnoddau a’r...

Cyfle – Artist

Contract – Artist Ymgysylltu â’r Gymuned Artist Ymarfer sy'n Ymgysylltu'n Gymdeithasol ar gyfer prosiect cyd-ddylunio cymunedol Dyfi ynghylch addasu arfordirol "Mae celf yn adrodd straeon pwerus. Gall artistiaid adrodd straeon cymunedau y mae newid yn yr hinsawdd yn...