Yn ystod Ebrill roedd o’n bleser cael cynnal Elin Haf Jones fel rhan o gyfnod hi ar brofiad gwaith gyda FWAG. Ar ôl y pythefnos o brofiad gwaith wnaeth Elin rhannu ychydig am ei phrofiad efo ni:
Rhannwch ychydig amdanat ti?
Helo, Elin ydw i. Dwi’n dod o Lanilar yn wreiddiol ond nawr yn byw yn Nhal-y-bont. Wedi byw ar fferm organig defaid a bîff ble roedd dad yn rheolwr fferm. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn ffermio yn gynaliadwy ac adfywiol i gydbwyso amaeth a natur.
Beth wyt ti’n astudio ar hyn o bryd?
Dwi’n astudio cwrs Amaethyddiaeth yn Goleg Llysfasi
Pam wnaethost ti ddewis cael profiad gwaith gyda FWAG a Tir Canol?
Wastad wedi cael diddordeb mewn cadwraeth a ffermio a’r ffordd maent yn cydweithio. Dad wedi cydweithio gyda FWAG yn y gorffennol felly wedi awgrymu cysylltu efo nhw.
Beth yw rhai o uchafbwyntiau’r pythefnos o brofiad gwaith?
Gwneud arolygon gyda Ben o Tir Canol ar wahanol gynefinoedd a’r ffordd gall y cynefinoedd cael ei newid i’r gorau ar gyfer rhywogaethau gwahanol
Wyt ti wedi dysgu unrhyw beth newydd dros y pythefnos diwethaf?
Y ffyrdd bydd cadwraeth yn gallu ffitio i mewn i systemau amaethyddol a chydfodoli heb ddifrodi ei gilydd.
Beth yw eich cynlluniau am y dyfodol? Rydw i’n gobeithio mynd i’r brifysgol i wneud rhyw fath o gwrs amaethyddol neu seiliedig ar y tir a chael swydd i wneud gyda fi niddordeb yn lleol.
Beth yw eich hoff anifail, aderyn, neu bryfed a pam?
Doedden i fethu dewis dim ond un felly:
Gwartheg – come on, ma nhw mor fluffy a ciwt 😀
Y Gylfinir – aderyn mor ddiddorol ac unigryw
Y wennol – maen nhw mor brydferth



Pob llun gan Ben Porter
Mae wedi bod yn wych gweithio gydag Elin a dymunwn bob lwc iddi yn ei dyfodol fel un o’n cenhedlaeth nesaf o ffermwyr sy’n gweithio gyda byd natur.