Wrth i brosiect Tir Canol gael ei lansio, wedi diwedd y prosiect O’r Mynydd i’r Môr, mae partneriaeth newydd bellach yn cymryd y cyfrifoldeb o ddarparu Tir Canol.
Mae’r bartneriaeth newydd yn cwrdd bob mis i symud y prosiect yn ei flaen, gyda phartneriaid yn cynnwys RSPB Cymru, Tir Coed, FWAG, Bwyd Dros Ben Aber, Ymddiriedolaeth Natur Cymru, ecodyfi, Coed Cadw a ACA Phen Llyn a’r Sarnau i enwi rhai aelodau. Mae hefyd nifer o unigolion sy’n cynrychioli meysydd penodol fel ffermio.
Mae’r bartneriaeth yn parhau i ehangu ac os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn bartner cysylltwch â ni am sgwrs ac i gael eich cynnwys yn ein rhestr cylchrediad partneriaeth.
Elfen graidd o Dir Canol yw gweledigaeth a themâu ac sydd wedi eu cyd-ddylunio gan bobl leol. Mae hyn yn rhoi cryfder a phwrpas i gydweithio ar gyfer yr hyn yr ydym i gyd yn ei werthfawrogi yn yr ardal hon, mae hyn wir yn obaith cyffrous, rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phobl leol i gyflawni dros natur a chymunedau