A wnaeth cyd-ddylunio gweithio

Mae wedi bod yn bwysig iawn i’r prosiect adlewyrchu a dysgu o beth a sut rydym wedi bod yn dylunio atebion perthnasol lleol ar gyfer yr argyfwng bioamrywiaeth a hinsawdd. Mae wedi bod yn ffordd newydd o weithio i lawer ohonomac felly yn gynnar yn 2022 fe wnaethom gomisiynu darn o ymchwil i archwilio a myfyrio ar gyfnod cyd-ddylunio’r prosiect hwn.

Fe wnaeth yr ymchwilwyr gyfweld â phobl oedd yn cymryd rhan yn y cyd-ddylunio mewn amryw o ffyrdd. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma. Neu gallwch cael cipolwg drwy’r adroddiad cryno yma.  

“Mae wedi herio ein ffordd ni o weithio, ac roeddwn i’n meddwl bod hynny’n beth da, yn bersonol ac o ran y sefydliad” 

Mae’r adroddiad yn cynnwys llawer o fyfyrdodau ac argymhellion defnyddiol yr ydym ni fel prosiect eisoes yn adeiladu arnynt.  Mae’r adroddiad wedi’i rannu’n 9 pwnc am y cyfnod cyd-ddylunio: 

  • Pwrpas, cyfle ac amserlen 
  • Dulliau 
  • Lleoedd a mannau 
  • Cyfathrebu 
  • Pobl, rolau a chynrychiolaeth 
  • Llywodraethu a gwneud penderfyniadau 
  • Adnoddau a chyllid 
  • Meithrin gallu 
  • Effaith a mesur llwyddiant 

“Rydw i‘n teimlo eu bod nhw wedi datblygu cymuned eithaf cryf. Mae’r cyfarfodydd yn teimlo fel bod gan bawb lais” 

Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwil hwn, gan sicrhau bod profiadau a mewnwelediadau’r rhai a fu’n rhan o’r cyd-ddylunio yn cael eu casglu er mwyn i ni ddysgu oddi wrthynt.  

“Roeddwn ni’n ceisio creu syniadau newydd. Mae cynnwys lleisiau sy’n feirniadol, neu’n teimlo eu bod nhw wedi’u brifo, yn elfen mor bwysig o drwsio, gwella, cymodi. Rwy’n meddwl bod hyn yn hanfodol”

Cyfnod Preswyl Coetir

Mae Tir Canol a Coed Cadw yn cynnig cyfnod preswyl i artist, ar y thema coed a/neu goetiroedd. Dyma gyfle i artist ddatblygu a/neu gyflawni gwaith sy’n ceisio (ail)gysylltu cymunedau â’r tirweddau yn ein hardal ni o Ganolbarth Cymru. Rydym yn chwilio am artistiaid...

Dorry Spikes – Crwydryn

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi Dorry Spikes fel artist preswyl Tir Canol ar gyfer hydref/gaeaf 2026. Astudiodd Dory Ddarlunio ac Animeiddio ym Mhrifysgol Kingston ac aeth i’r ‘Flwyddyn Arlunio’ yn yr Ysgol Arlunio Frenhinol. Mae peintio a thynnu lluniau o brofiadau...

Sut gallwn ni leihau risg ac effaith llifogydd yn Nhal-y-bont? Adroddiad Llif

Sut daeth Llif i fodolaeth? Yn 2012, torrodd afonydd Ceulan a Leri eu glannau ym mhentref Tal-y-bont ger Aberystwyth yng Nghanolbarth Cymru. Cafodd hyn effaith drychinebus. Effeithiodd y llifogydd ar 27 o gartrefi a busnesau. Datblygwyd prosiect Llif mewn partneriaeth...

Tendr ar gyfer Gwerthuswr rhaglen Cynnal

Mae Tir Canol yn chwilio am ymgynghorydd i werthuso prosiect (Cynnal) sy'n rhan o raglen ehangach o waith. Gallwch ddarllen mwy am gefndir Tir Canol yma. Bydd y gwerthusiad yn cyfrannu at ein myfyrio ar ddatblygiad parhaus rhaglen Tir Canol, gan ein galluogi i...

Astudiaeth achos: Tyfu cnydau bresych y gaeaf ar fferm laeth

Fel rhan o’n prosiect treialon cnydau, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr lleol, gan gynnig cyngor, cyllid sbarduno, cysylltiadau â marchnadoedd lleol, ac offer i gefnogi cynhyrchu garddwriaeth yn lleol. Un ffermwr sy’n ymwneud â’r prosiect yw Menna Williams...

Galwad Agored i Artistiaid

Mae Tir Canol yn cynnig cyfle i artistiaid ddatblygu a/neu gyflawni gwaith sy’n ceisio (ail)gysylltu cymunedau â’r tirweddau yn ein hardal ni o Ganolbarth Cymru. Rydym yn chwilio am artistiaid newydd a sefydledig o unrhyw ddisgyblaeth sydd â chysylltiad â’r dirwedd...

Atal tanau gwyllt Cwm Rheidol

Mae Tir Canol yn gweithio mewn partneriaeth â Choed Cadw, sy’n rheoli coetir Allt Boeth ym mhen uchaf Cwm Rheidol, er mwyn cefnogi’r camau cyntaf wrth ddatblygu cynllun argyfwng Cymuned Cwm Rheidol. Mae’r syniad o gael cynllun wedi dod gan y gymuned, sydd wedi gweld...

Beth mae ein Swyddog Natur yn ei wneud?

Mae Ben Porter, Swyddog Natur Tir Canol, yn gweithio gyda pherchnogion tir a ffermwyr, gan gynnig arolygon bioamrywiaeth o’u tir, ac unrhyw goetir arno, i sefydlu eu gwerth a’u cyflwr ecolegol. Wedi hynny, byddwn yn cynnig cyllid ymyrraeth i’r safleoedd hynny lle mae...

Lansio Llawlyfr Newid Llanw

Lansio Newid Llanw - Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth. Credyd llun: Dan Jones Ddydd Gwener 27 Chwefror, fe wnaethom lansio Newid Llanw, llawlyfr ar addasiadau arfordirol sydd wedi cael ei lunio ar y cyd â chymunedau Dyfi. Nod y llawlyfr yw darparu’r adnoddau a’r...

Cyfle – Artist

Contract – Artist Ymgysylltu â’r Gymuned Artist Ymarfer sy'n Ymgysylltu'n Gymdeithasol ar gyfer prosiect cyd-ddylunio cymunedol Dyfi ynghylch addasu arfordirol "Mae celf yn adrodd straeon pwerus. Gall artistiaid adrodd straeon cymunedau y mae newid yn yr hinsawdd yn...