Ar noson oer yn fis Chwefror 2022 daeth cynulleidfa o Fachynlleth at ei gilydd i ddathlu lansiad cyfrol o gerddi gan y bardd Sam Robinson yn yr Owain Glyndŵr. Yng nghwmni beirdd a chantorion yr ardal wnaeth Sam Robinson rhannu nifer o gerddi o’i gyfrol newydd Y Ffermwr Gwyllt gyda Cerys Hafana yn darparu cerddoriaeth i gyd-fynd efo’r cerddi ar y delyn.
Daeth y gyfrol yma i fodolaeth ar ôl i Sam gael ei gomisiynu drwy Tir Canol i ysgrifennu am ei brofiadau fo yn rhan o’r gymuned amaeth yn yr ardal wrth adlewyrchu ar y newid sydd yn digwydd o’i gwmpas. Mae Sam yn byw a gweithio’n lleol fel bugail ar nifer o ffermydd yn yr ardal. Gafodd Sam ei magu yn Rhydychen ac mae o wedi graddio yn athroniaeth, ond wedi byw yng Nghymru ers rhai flynyddoedd ac wedi dysgu Cymraeg yn yr ardal wrth iddo weithio ar ffermydd a chanu efo’r côr lleol.
“Roedd y cerddi ma wedi bod yn eplesu yn cefn fy meddwl ers sawl blwyddyn. Rhyw ysfa i geisio cysoni tensiynau, neu o leiaf dal y cyfan gorau ag o’n i’n gallu mewn un coflediad, dyna oedd craidd y peth amwn i. Ac efo cefnogaeth Tir Canol, ges i gyfle i sianelu’r ysfa na yn fynegiant call” Sam Robinson
Mae’r gyfrol yn trafod y perthynas rhwng tirfeddianwyr ar dir a natur. Mae’n rhoi cyfle gwych i drafod a myfyrio ar brofiadau’r bobl sydd yn gweithio’n galed yn ei’n dirweddau, ac yn dod a lleisiau i’r amlwg sydd yn gallu cael ei anwybyddu gan rai.
Mae’r casgliad eisoes wedi cael ei gyhoeddi gan Y Stamp a gallwch brynu copi eich hun yma
Mae’r gyfrol lawn yn cynnwys rhagair gan Carwyn Graves, sy’n disgrifio Sam fel:
“Gŵr sy’n gyfarwydd ag alawon y cae yw Sam Robinson, fel cynifer o’r lleisiau eraill o’r gorffennol y mae’n ymglywed â nhw yma. Bugail Cymraeg o Faldwyn yw Sam, a fagwyd yn ddi-Gymraeg ar aelwyd anamaethyddol yn Rhydychen, Lloegr. Diolch iddo am fynegi’r hunllef hen-a-newydd, ac am fynegi’r freuddwyd.” Carwyn Graves
Gallwch ddarllen y gerdd ‘Y Ffarmwr Gwyllt’, o’r gyfrol isod.
Y Ffermwr Gwyllt
Gwelwch ef yn dod ar hyd y wawr
yn droednoeth ar wlith y gwair
a’i gyrn ynghudd o dan ei gap.
Ond ffor mae hyn yn bosib dwêd?
Byse gweld iâr â dannedd hir
a lleuad y dydd yn ei thin
yn synnu llai arna’i.
Ond welwch chi wir y meillion gwyn
a’r gwenyn i gyd o’i gwmpas?
Pob shetin yn daclus,
pob wal heb un bwlch,
a bwyd bêch go lew ar bob bryn.
Roedd o’n wyllt oherwydd—
wrthi dorri gwair hwyr o haf
a haul ar ei chwys hallt,
fe aeth o’n sownd yn ei anian.
Ac fe’i gwelwyd yn aml iawn
yn neidio ffens fel hesben blwydd y diawl.
Ac roedd o wedi gwyllto.
Wedi gwyllto wrth deimlo cliriad y bryniau
a blodau’r iaith yn diflannu o’r llethrau,
llanw coed yn boddi caeau
fesul credit carbon.
Wedi gwyllto wrth glywed ei adar ar dafod blaidd,
yn swyngan wyllt i olchi’r gwaed yn wyrdd.
Nid yw’r ddaear yn gofyn ysgariad.
Duw a ŵyr, mae hi’n galw am gusan araf.
Medda fo wrth blygu corn poethgoch
yr hwrdd â’i sbaner.
Diolch i Goed Cadw ac i’r People’s Postcode Lottery am ariannu’r darn o waith yma.