Ar yr 2il o Fedi, cynhaliwyd cyfarfod agored prosiect O’r Mynydd i’r Môr ar y cyd gyda Menter Mynyddoedd Cambria, ar fferm Moelgolomen Tal y Bont, Ceredigion. Y bwriad oedd rhannu datblygiadau’r prosiect a rhoi cyfle i mwy o bobl yr ardal fwydo mewn i’r broses cyd ddylunio, gan gyfrannu at weledigaeth y prosiect hwn yn y tymor hir. Trefnwyd y digwyddiad fel rhan o o’r waith ar y cyd gyda Menter Mynyddoedd Cambria, yn dilyn cyfweliadau gyda dros 50 o fusnesau yn yr ardal sydd yn rheoli tir ac yn gweithio gyda natur.
Daeth 25 o unigolion ynghyd i’r cyfarfod, y mwyafrif yn ffermwyr lleol. Roedd hi’n amlwg o’r dechrau bod pawb yn barod iawn i gyfrannu syniadau a thrafod y ffordd ymlaen. Roedd y mwyafrif helaeth yn teimlo’n bositif am ddatblygiad O’r Mynydd i’r Môr, yn enwedig gyda RSPB Cymru bellach yn cynnal y prosiect a chriw o bobl lleol wrth y llyw.
Mae Dafydd Morris Jones yn ffermio Ffarm Tŷ Mawr ym Mhonterwyd ac yn Ymgynghorydd ar O’r Mynydd i’r Môr. Dafydd fu’n gyfrifol am groesawu pawb i’r cyfarfod
“Mae ymadawiad Rewilding Britain wedi caniatáu i’r prosiect gychwyn o’r newydd, a dechrau’r gwaith o adennill y ffydd a gollwyd yn y dyddiau cynnar. Mae’r broses hon yn un barhaus, ond bu’r trawsnewid hyd yn hyn yn syfrdanol. Nid prosiect ailwylltio yw hwn rhagor, ac wrth wneud y broses gyd-ddylunio yn ganolog i’w ddatblygiad hyd yn hyn, a’i gyfeiriad yn y dyfodol, mae yna gyfle euraid i’r gymuned ddod ynghyd a chreu rhywbeth sydd yn wirioneddol ymateb i’n anghenion ni, a’n dyheadau am ddyfodol ein cynefin. Mae cyfranni tuag at lwyddiant y prosiect yn gyfle i ni ddangos ein bod yn medru gwneud pethau’n wahanol, a chreu rhywbeth sydd yn gweithio er lles ein cymunedau a byd natur”.
Dafydd Morris Jones
Siân Stacey sy’n hwylusor prosiect O’r Mynydd i’r Môr ers Awst 2019. Dros yr haf mae Siân wedi bod yn brysur iawn yn teithio’r ardal yn sgwrsio gyda dros 200 o bobl mewn sesiynnau galw heibio er mwyn casglu ei syniadau a’i gweledigaeth nhw fel rhan o’r broses cyd -ddylunio. Yn ystod y cyfarfod cafodd Siân y cyfle i rannu’r syniadau, cyn i bawb fynd mewn i grwpiau i drafod rhain ymhellach a phleidleisio ar ei hoff syniadau. Yn brosiect sydd yma i hybu bywyd gwyllt a natur yr ardal, mae Siân yn awyddus i weld gymaint o bobl lleol a phosibl yn cymryd rhan yn y broses cyd ddylunio;
“Roedd yn wych cael y cyfle i wrando ar nifer o drafodaethau ddigwyddodd o fewn y cyfarfod yma, a nifer o syniadau newydd yn dod i’r golwg. Mae’r syniadau wedi mynd mewn i’n rhestr o syniadau ac eisioes yn cael eu cyd-ddylunio gan yr ymgynghorwyr lleol. Dwi’n edrych ymlaen at rannu sut mae’r syniadau o’r cyfarfod yma, a’r syniadau ddaeth i law yn ein sesiynau galw heibio dros yr haf, wedi cyfrannu at ddatblygiadau cyffrous y prosiect.”
Siân Stacey

Rhai o’r syniadau mwyaf blaengar sydd wedi eu cyflwyno gan drigolion yr ardal hyd yma yw’r dyhead i gydweithio’n lleol i leihau’r ol troed carbon a dod yn ardal carbon zero. Hybu a chefnogi ffemwyr yr ardal i gydweithio i greu egni adnewyddadwy yn lleol a hybu a chefnogi ffyrdd ble gallwn weld amaeth a bywyd gwyllt yn cydweithio, er mwyn gweld y ddau fyd yn ffynnu yn lleol.
Meddai Siân; “Mae llawer o’r syniadau yn profi bod pobl yn ardal y prosiect yn andros o angerddol am yr ardal hon o Gymru. Mae’r syniadau yma nid dim ond yn elwa’r bobl leol a’r tirlun, ond hefyd syniadau fydd yn hybu natur wyllt yr ardal.”
I ddarllen nodiadau llawn y sesiwn yma cliciwch yma.