RSPB Cymru i gynnal y prosiect

Cyhoeddiad O’r Mynydd i’r Môr fod RSPB Cymru nawr yn cynnal y prosiect

O Fehefin 2020 ymlaen, bydd y prosiect sy’n anelu at sicrhau newidiadau i natur ar raddfa fawr, drwy sicrhau budd ecolegol, economaidd a chymdeithasol, yn cael ei chynnal gan RSPB Cymru. Mae partneriaid, rhanddeiliaid lleol a chyllidwr O’r Mynydd i’r Môr wedi cytuno y dylai gwaith ar brosiectau cyfredol symud at broses gynllunio newydd sy’n caniatáu i gymunedau lleol gytuno ar gyfeiriad unrhyw brosiectau tir a môr yn yr hirdymor.

Meddai Neil Lambert, Pennaeth Tir, RSPB Cymru:

“Yn ystod y cyfnod hwn o sialensiau eithriadol, rydym yn hynod o falch bod O’r Mynydd i’r Môr yn mentro i gyfnod newydd o gynllunio fydd yn caniatáu i randdeiliaid a chymunedau lleol fod yn rhan gyflawn o gyd-ddylunio prosiectau newydd. Wrth fwrw ‘mlaen byddwn yn gweithio’n agos â rhanddeiliaid tir a môr. Mae’n hanfodol bod unrhyw brosiect yn sicrhau budd i bobl yn ogystal â byd natur. Mae’n gyfle arbennig i gynyddu’r cysylltedd rhwng amgylcheddau daearol a morol ar raddfa a fydd o fudd i bobl a bioamrywiaeth yn y canolbarth.”

Mae rôl RSPB Cymru yn rheoli’r prosiectau hyn yn disodli rôl Rewilding Britain a gymrodd gam yn ôl yn Hydref 2019 yn dilyn adborth gan gymunedau lleol. Ers mis Hydref mae partneriaeth O’r Mynydd i’r Môr wedi bod yn dysgu oddi wrth adborth lleol ac wedi bod yn edrych ar ffyrdd o barhau i ddatblygu canllawiau arfer gorau er mwyn sicrhau bod y prosiectau’n cael effaith bositif ar natur a phobl.

Rydym wedi ymgynghori â Copa (Cymunedau Oll Pumlumon a’r Ardal) ynghylch cyfeiriad y cyfnod cynllunio ac maent yn awyddus i weld y broses yn ystyried barn rhanddeiliaid lleol yn llawn. Bydd RSPB Cymru yn chwarae rhan allweddol yn cynnal staff y prosiect a chyflwyno adroddiadau i gyllidwyr, fodd bynnag bydd y broses o wneud penderfyniadau yn gyfartal i’r holl bartneriaid presennol ac yn y dyfodol.

Meddai’r Cynghorydd Elwyn Vaughan,  Plaid Cymru, a Chadeirydd grŵp cymunedol Copa:

“Rydym yn falch bod y prosiect wedi gwrando ar y pryderon a leisiwyd dros y 18 mis diwethaf, a gydag ymadawiad Ail-wylltio Prydain, a’u gweledigaeth, ynghyd ag ail-strwythuro’r prosiect yn gyfan gwbl, rydym â’n golygon ar greu dyfodol yn seiliedig ar sylfeini newydd sy’n adlewyrchu cymuned a thirwedd yr ardal hon.”

Fel sawl ardal yng Nghymru a thu hwnt, mae gan y Mynyddoedd Cambrian dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol cyfoethog iawn ond sydd wedi gweld dirywiad yn ei fywyd gwyllt a chynnydd mewn ansicrwydd economaidd. Bwriad O’r Mynydd i’r Môr yw creu dyfodol ble mae pobl a bywyd gwyllt yn ffynnu ochr yn ochr â’i gilydd, drwy gydweithio ag amrywiaeth o dirfeddianwyr a defnyddwyr adnoddau, wrth edrych ar sut gall economi leol, natur-gyfeillgar gefnogi hyn.

Meddai Rory Francis, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd Coed Cadw:

“Un peth rydym wedi ei ddysgu dros y misoedd diwethaf yw pa mor bwysig yw amgylchfyd o safon uchel i bob un ohonom. O’r cychwyn cyntaf, bwriad O’r Mynydd i’r Môr yw helpu adfer a gwella’r amgylchfyd hwnnw, hybu ffyniant ecosystemau a sicrhau economi leol gadarn. Dyma gyfle o’r newydd i O’r Mynydd i’r Môr wneud hyn, drwy gyd-weithio â rhanddeiliaid a chymunedau lleol. Rydym yn benderfynol o ddysgu gwersi o’r gorffennol gan sicrhau y gallwn, un ac oll, wneud y gorau o’r cyfle hwn i’r dyfodol.”

Bydd RSPB Cymru yn cynnal Summit to Sea am hyd at ddwy flynedd ac mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan yr Endangered Landscapes Programme. O achos cyfyngiadau presennol Covid-19, bydd amseriad y prosiect yn hyblyg ac yn para hyd at ddwy flynedd os oes angen, er mwyn sicrhau bod rhanddeiliaid yn medru cyfrannu cymaint â phosib i ddatblygiad y prosiect. Bydd y prosiect hefyd yn dilyn datblygiad yr ymgynghoriad ar ffermio cynaliadwy, i sicrhau bod y broses o gyd-ddylunio’r prosiect yn ymateb i’r penderfyniadau a wneir yn yr ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru.

Er budd tryloywder, mae’r prosiect yn parhau i gael ei alw’n ‘O’r Mynydd i’r Môr’ gan mai dyma deitl gweithredol a all gael ei newid pe bai’r partneriaid a’r rhanddeiliaid yn cytuno ar well ffordd ymlaen.

Yn dilyn cais llwyddiannus i’r Endangered Landscapes Programme yn 2018, cyflwynwyd nawdd ariannol o £3.4 miliwn i O’r Mynydd i’r Môr dros 5 mlynedd. Ym Mehefin 2020, ail-strwythurwyd ac addaswyd amserlen cwblhau’r gwaith er mwyn canolbwyntio ar gyfnod cychwynnol o gyd-ddylunio, sydd yn derbyn nawdd ariannol (£158,000) gan y cyllidwyr gwreiddiol, fel y bydd am y flwyddyn neu ddwy nesaf (yn dibynnu ar y newidiadau i ganllawiau pellhau cymdeithasol). Mae’r grant gwreiddiol wedi’i glustnodi ar gyfer y prosiect ar yr amod bod prosiect addas yn cael ei gytuno â’r rhanddeiliaid.

Atal tanau gwyllt Cwm Rheidol

Mae Tir Canol yn gweithio mewn partneriaeth â Choed Cadw, sy’n rheoli coetir Allt Boeth ym mhen uchaf Cwm Rheidol, er mwyn cefnogi’r camau cyntaf wrth ddatblygu cynllun argyfwng Cymuned Cwm Rheidol. Mae’r syniad o gael cynllun wedi dod gan y gymuned, sydd wedi gweld...

Beth mae ein Swyddog Natur yn ei wneud?

Mae Ben Porter, Swyddog Natur Tir Canol, yn gweithio gyda pherchnogion tir a ffermwyr, gan gynnig arolygon bioamrywiaeth o’u tir, ac unrhyw goetir arno, i sefydlu eu gwerth a’u cyflwr ecolegol. Wedi hynny, byddwn yn cynnig cyllid ymyrraeth i’r safleoedd hynny lle mae...

Lansio Llawlyfr Newid Llanw

Lansio Newid Llanw - Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth. Credyd llun: Dan Jones Ddydd Gwener 27 Chwefror, fe wnaethom lansio Newid Llanw, llawlyfr ar addasiadau arfordirol sydd wedi cael ei lunio ar y cyd â chymunedau Dyfi. Nod y llawlyfr yw darparu’r adnoddau a’r...

Cyfle – Artist

Contract – Artist Ymgysylltu â’r Gymuned Artist Ymarfer sy'n Ymgysylltu'n Gymdeithasol ar gyfer prosiect cyd-ddylunio cymunedol Dyfi ynghylch addasu arfordirol "Mae celf yn adrodd straeon pwerus. Gall artistiaid adrodd straeon cymunedau y mae newid yn yr hinsawdd yn...

Cyfle

Rydym yn chwilio am ddylunydd… BRIFF DYLUNIO: Dogfen Cerrig Camu - Cynllun Gweithredu ar Reoli Llifogydd Cefndir: “Mae Grŵp Llifogydd Cymunedol Talybont (TCFG) wedi bod yn gweithio am y dri flynedd ddiwethaf ar brosiect i gasglu tystiolaeth o sut mae dŵr yn ymddwyn yn...

Celf , Sgyrsiau a Gweithdai

27.04.25 - Dydd Sul10:00 – 17:00Star of the Sea – Borth SY24 5HFDewch yn llu. Diwrnod o greadigrwydd ac rhannu gydag Artistiaid Preswyl Tir Canol: Veronica Calarco, Ailsa Mair, a Hannah Doyle! Dewch i archwilio'r cysylltiad rhwng celf, straeon, cymuned a'r byd...

Datganiadau o ddiddordeb ar gyfer Treialon Cnydau Dyfi a Rheidol

Treialon Cnydau Dyfi a Rheidol yn chwilio am ffermwyr a thyfwyr! Ydych chi’n ffermwr neu dyfwr sy’n byw yn nyffryn Dyfi neu Rheidol? Oes gennych chi ddiddordeb dargyfeirio eich fferm i gynnwys cynhyrchu llysiau, neu ehangu ar y cnydau bwytadwy a gynhyrchir ar eich...

Cyfle Artist Preswyl

Mae Tir Canol yn gymuned sy'n dylunio ac yn darparu canlyniadau cadarnhaol i natur a phobl trwy ein defnydd o'r tir a'r môr.Pobl Cymuned yn ymwneud â rheoli tir a môr ar gyfer natur a ni, sydd yn dathlu ein treftadaeth gyfoethog ac sy’n gynaliadwy Tir Cymuned sy'n...

Swydd Newydd – swyddog arfordir

Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â thîm gwych sy'n achub natur ac ysbrydoli pobl yn rhai o ardaloedd mwyaf cyfoethog bywyd gwyllt Cymru.     Rydym yn chwilio am rywun sy'n angerddol am ardal Dyfi, sy'n gweld y darlun mawr ac sydd â llygad am fanylion. Rhywun...

Taith gerdded Tir Canol

Dros yr haf fe wnaethom gyflwyno cyfres o deithiau cerdded rhad ac am ddim ar draws ardal prosiect Tir Canol. Nod y teithiau cerdded oedd ennyn diddordeb y cyhoedd gyda’r amrywiaeth eang o natur, coed a thirweddau o fewn yr ardal. Roedd y tywydd yn heriol weithiau...