Drwy gydol Haf 2020, mae tîm o werthuswyr annibynnol wedi bod yn cynnal adolygiad o’r prosiect O’r Mynydd i’r Môr. Sefydlwyd er mwyn cynnal adolygiad interim o’r prosiect gan ganolbwyntio ar reoli, llywodraethu a gweithio mewn partneriaeth, o’i sefydlu tan ei ailsefydlu ym mis Mehefin 2020. Arianwyd yr adolygiad yn annibynnol i gyllid grant y prosiectau. Y sefydliadau a ariannodd yr adolygiad hwn oedd WWF, Coed Cadw a Rewilding Britain. Roedd y tîm gwerthuso yn cynnwys consortiwm o Fforwm Arfordir Sir Benfro, Dyfodol Cynaliadwy Netherwood a Cynllunydd Llesiant.
Mae adroddiad llawn y gwerthusiad bellach wedi’i gwblhau ac mae’r prosiect wedi penderfynu rhannu hyn, a’r hyn a ddysgwyd.
Gallwch ddarllen yr adroddiad yn llawn yma.
Fel prosiect, hoffem ymateb i bob un o’r deg argymhelliad a wnaed gan y tîm gwerthuso.
1. Eglurder Pwrpas
Mae sicrhau eglurder pwrpas yn bwysicach nag erioed i’r prosiect, yn enwedig gan ei fod bellach mewn cyfnod cyd-ddylunio. Rydym yn gweithio ar sicrhau bod ein cyfathrebu o’r prosiect, au diben presennol o gyd-ddylunio â’r gymuned a rhanddeiliaid yn glir. Rydym yn gweithio gyda chontractwr cyfathrebu lleol i sicrhau fod y neges a’r iaith a ddefnyddiwn yn briodol yn lleol. Wrth i’r broses o gyd-ddylunio barhau, byddwn yn sicrhau bod y weledigaeth strategol yn glir i annog ystod eang o bobl i gyfrannu at y broses.
2. Bod Bwrdd Partneriaeth Prosiect yn cael ei sefydlu i sicrhau y gall partneriaid y prosiect ymgysylltu ac chael ei arweinio gan arbenigedd lleol.
Rydym yn cytuno’n llwyr â’r argymhelliad ac mae hyn yn rhywbeth y mae’r bartneriaeth bresennol wedi ymrwymo i’w gyflawni. Ers mis Mehefin 2020 mae’r prosiect wedi siarad â dros 100 o randdeiliaid lleol a daeth dros 50 o bobl i’r gweithdy ar-lein cyntaf a gefnogwyd gan nifer o hwyluswyr lleol. Mae’r prosiect yn cynnal cyfarfod Grŵp Cyswllt ar 30 Tachwedd fel cam tuag at sicrhau bod rhanddeiliaid allweddol yn parhau i gael gwybod am y cynnydd ac yn cael cyfle i gyfrannu at y datblygiad yn strategol.
3. Bod Grŵp Rheoli wedi’i sefydlu i oruchwylio, craffu, cyfarwyddo i gyflawni prosiectau yn ystod 2020-22, ac i sefydlu rheolaeth briodol ar gyfer y prosiect ar ôl 2022.
Ers mis Mehefin 2020 mae grŵp rheoli wedi cyfarfod yn fisol. Mae’r grŵp yn cynnwys staff allweddol RSPB Cymru, staff prosiect a chontractwyr allweddol sy’n cyflawni’r broses o gyd-ddylunio. Mae’r cyfarfodydd yn gyfle i adolygu cynnydd a darpariaeth, cyfathrebu ac adroddiadau ariannol.
4.Bod Grŵp Cyflawni wedi’i sefydlu sy’n cynnwys tîm y prosiect, a staff o sefydliadau sy’n gweithio ar lefel gymunedol yn yr ardal.
Mae tîm presennol y prosiect yn cyfarfod yn rheolaidd, o leiaf unwaith y mis ond yn aml yn fwy rheolaidd. Mae’r grŵp hwn wedi sefydlu strwythur adrodd wythnosol i dynnu sylw at unrhyw oedi, heriau neu feysydd lle mae angen mwy o gymorth. Wrth i’r broses gyd-ddylunio ddatblygu, mae’r grŵp hefyd yn ystyried ehangu’r ‘tîm dylunio’ i gynnwys ‘dylunwyr cymunedol’ a all gynnal gweithdai a sgyrsiau gyda’u ffrindiau, eu cymuned neu eu sefydliadau i gynyddu’r rhai sy’n ymwneud â’r broses ddylunio. Wrth i hyn ddatblygu, bydd hyn yn cynyddu’r rhai sy’n ymwneud â’r ‘Grŵp Cyflawni’ sy’n gweithio ar lefel gymunedol yn yr ardal.
5. Cyfrifoldebau ac Adnoddau. Rydym yn argymell bod O’r Mynydd i’r Môr, yn ei chyfnodau nesaf, yn annog partneriaid (a rhanddeiliaid) i fod yn benodol am beth yw eu rôl a’u cyfrifoldebau a pha adnoddau ac arbenigedd y gellir eu dwyn i’r prosiect a bod hyn yn cael ei adolygu’n rheolaidd.
Mae’r partneriaid presennol wedi llofnodi Memoranda Cyd-ddealltwriaeth, sy’n amlinellu rôl allweddol partneriaid, gyda’r disgwyliad y bydd partneriaid newydd yn ymuno â’r bartneriaeth dros y misoedd/blwyddyn nesaf. Wrth i’r prosiect ddatblygu gweledigaeth, strategaeth ac ymyriadau penodol clir i gyflawni’r rhain (yn seiliedig ar ganlyniadau’r broses gyd-ddylunio) bydd y prosiect yn sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau wedi’u diffinio’n glir ar gyfer pawb sy’n gysylltiedig, ar bob lefel.
6. Rydym yn argymell bod O’r Mynydd i’r Môr yn sefydlu system rheoli risg sy’n cwmpasu risgiau strategol i’r prosiect, a risgiau rheoli i gyflawni prosiectau.
Mae gan y prosiect system rheoli risg ei hun, sy’n cael ei adolygu gan y Grŵp Rheoli, gydag unrhyw risgiau mawr yn cael eu codi i’r Bwrdd Partneriaeth pan fod angen a chyda ‘risgiau’ yn eitem sefydlog ar agenda’r Grŵp Rheoli a’r Bwrdd Partneriaeth.
7. Dadansoddi Sgiliau – dylai’r Cam Cynllunio Prosiect archwilio’r sgiliau sydd eu hangen a’r rhai sydd ar gael yn lleol i sefydlu cam nesaf y prosiect.
Mae’r prosiect yn gefnogol iawn i’r argymhelliad yma ac mae’n canolbwyntio ar ddefnyddio’r sgiliau sydd ar gael yn lleol i gyflawni hyn, a chyfnodau yn y dyfodol. Ar hyn o bryd mae’r prosiect yn gweithio gydag ymgynghorydd cyfathrebu yn yr ardal, yn defnyddio gwasanaethau cyfieithu nifer o sefydliadau ac unigolion lleol a bydd yn blaenoriaethu defnyddio sefydliadau sydd ar gael yn lleol i gyflawni unrhyw waith yn y dyfodol. Mae Swyddog Datblygu y prosiect hefyd yn byw yn yr ardal.
8. O ystyried mai un o nodau allweddol y prosiect yw cefnogi’r economi leol, awgrymwn fod O’r Mynydd i’r Môr, fel rhan o’r Cyfnod Cynllunio, yn asesu sut y gall ei gweithgarwch gefnogi economïau ariannol ac anariannol yr ardal, yn y gymuned, ar gyfer pobl leol â daliadau tir a rheolwyr tir.
Mae trydydd amcan cyllid presennol y mae’r prosiect yn ei gael ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar ddeall sut i gryfhau mentrau sy’n bodoli eisoes, adolygu’r mecanweithiau i gefnogi seilwaith sy’n eiddo lleol / wedi’i yrru, er mwyn darparu mwy o gysylltedd, gwydnwch y gadwyn gyflenwi a budd i bobl leol, yr economi ac ecoleg. Mae’r prosiect yn gobeithio gweithio gyda nifer o randdeiliaid lleol sydd eisoes yn ymwneud â chefnogi’r economi leol i asesu sut mae syniadau a ddatblygwyd o’r broses gyd-ddylunio yn cefnogi economïau ariannol ac anariannol yr ardaloedd.
9. Cyd-ddylunio a Chyd-gynhyrchu – Awgrymir bod staff O’r Mynydd i’r Môr yn derbyn hyfforddiant mewn Cyd-ddylunio a Chyd-gynhyrchu ar gyfer y cyfnod cynllunio ac, yn eu tro, i ddefnyddio hyn yn eu gwaith gyda rhanddeiliaid, Bwrdd y Rhaglen, Grwpiau Rheoli a Chyflawni.
Rydym bellach yn gweithio gyda dau gontractwr sydd â phrofiad o gyd-ddylunio a chyd-gynhyrchu sy’n cefnogi Swyddog Datblygu’r Prosiect. Mae RSPB Cymru yn cynnwys staff eraill sydd â phrofiad yn y maes hwn i gefnogi datblygiad y prosiectau.
Gan fyfyrio ar yr argymhelliad hwn ymhellach, bydd O’r Mynydd i’r Môr yn adeiladu ar sgiliau’r staff allweddol sy’n ymwneud â chyflawni’r prosiect ar hyn o bryd drwy ddarparu hyfforddiant mewn cyd-ddylunio a chyd-gynhyrchu. Hoffai’r bartneriaeth hefyd archwilio gwahodd rhanddeiliaid lleol eraill i gymryd rhan yn yr hyfforddiant a’r gobaith yw, drwy groesawu ‘tîm dylunio’ ehangach i gymryd rhan mewn cynnal gweithdai, y gall hyfforddiant a rhannu sgiliau ddigwydd yn y maes hwn.
10. Llywodraethu Atblygol wrth i’r cyfnod cynllunio barhau yn 2020-22, bod Bwrdd Partneriaeth y Prosiect yn myfyrio’n rheolaidd ar y ffordd y mae partneriaid yn cydweithio, a yw’r dulliau presennol yn achosi unrhyw broblemau (neu gyfleoedd), ac i nodi ffyrdd o wella cefnogaeth partneriaid i’r prosiect yn ei gyfanrwydd.
Mae gan y prosiect ddiddordeb mewn dysgu am yr argymhelliad hwn a chyflwyno damcaniaethau Llywodraethu Atgyrch yn ymarferol. Caiff ei gyflwyno fel eitem sefydlog ar draws y strwythurau llywodraethu.
Fel prosiect, rydym yn ddiolchgar i bawb a roddodd ei hamser i gyfrannu at y gwerthusiad hwn a chefnogi’r cyfle rhannu a dysgu hwn. Fel yr esbonia’r crynodebau uchod, mae’r prosiect wedi gwneud newidiadau sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf ac ers mis Mehefin 2020 mae mecanweithiau trylwyr mewn lle i sicrhau fod y prosiect yn parhau i ddatblygu’n gadarnhaol tra’n cynnwys yr ystod eang o leisiau yn y gymuned. Drwy’r broses cyd-ddylunio ailadroddol a darparu cyfleoedd i bobl gymryd rhan yn y gwaith dylunio, rydym yn obeithiol o greu gweledigaeth uchelgeisiol ac ysbrydoledig sy’n briodol yn lleol a fydd yn cefnogi natur, pobl ac economi wledig llwyddiannus.